Cartref  Pasg Diolch- garwch  Nadolig Gemau
Ysgol Penboyr
Dathliadau yn yr Eglwys
Dau gant o flynyddoedd yn ol roedd Joshua Watson a phobl
eraill oedd yn aelodau pwysig o eglwys Lloegr wedi cwrdd
i ddechrau y Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer addysg
y tlawd.

Roedd y cwrdd cyntaf wedi cael ei gynnal ar y 16 o Hydref
1811. Eu tasg oedd adeiladu ysgolion eglwysig ym mhob
plwyf.

Erbyn 1861 roedd yna 12 mil o ysgolion ar draws Lloegr a
Chymru mewn 'undeb' gyda'r Gymdeithas Genedlaethol ar
draws Cymru a Lloegr.

Heddiw mae bron 5 mil o ysgolion eglwysig ac academiau a
bron 1 miliwn o ddisgyblion a thros 15 miliwn o bobl yn
mynychu ysgolion Eglwysig.

Ar yr 14 o Hydref 2011, roedd plant ysgol
Penboyr yn rhan o wasanaeth dathlu 200
mlwyddiant Ysgolion Eglwysig yn Abaty
Westminster yn Llundain. Enillodd dwy
ddisgybl, un o flwyddyn pump, ac un o
flwyddyn chwech gystadleuaeth i gynllunio
baner Haf 2011. Cynhaliwyd gwasanaeth yn
Abaty Westminster gan Archesgob Caer-gaint,
Dr Rowan Williams i ddathlu ysgolion sy'n
cynnig addysg Gristnogol i blant a theuluoedd.

Un ochr o'r faner
Abaty Westminster
Creu Baner  Llundain  Adroddiad Cerian
Cliciwch ar y
botumau i weld mwy
Dathlu 200
^