Cartref  Pasg Diolch- garwch  Dathlu 200 Nadolig Gemau
Ysgol Penboyr
Dathliadau yn yr Eglwys
^ nol
Byddwn ni yn cymryd rhan yn yr orymdaith yn dilyn yr ebol asyn drwy’r stryd yn y dref i’r Eglwys ar fore Sul y Blodau a chanu yn y gwasanaeth.

Bu Luned Aaron, y cyflwynydd yn cyfweld Mrs James, Y Pennaeth a rhai ohonom ni fel disgyblion! Er ein bod yn nerfus, roedd e’n hwyl cael ein cyfweld! Bydd camerau yng Nghastell Newydd i recordio’r achlysur a bydd yn cael ei ddarlledu ar y noson Sul honno.

Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn raglen grefyddol ar S4C bob nos Sul am 8 o’r gloch.
Roedden ni’n gyffrous iawn pan ddaeth rhaglen ‘Dechrau canu Dechrau Canmol’ i recordio ni yn ymarfer ‘Jubilate’ ar gyfer gorymdaith a gwasanaeth Sul y Blodau yng Nghastell Newydd Emlyn.