Idiomau


Idiomau yw ymadroddion neu ddywediadau a ddefnyddiwn mewn iaith bob dydd.

Ysgrifennwch frawddegau gan ddefnyddio'r idiomau isod.


  1. Yn wen o glust i glust
  2. Heb siw na miw
  3. Cael llond bol
  4. Gwneud ei orau glas
  5. Gwneud mor a mynydd
  6. Newydd sbon
  7. Codi calon
  8. Rhoi'r ffidil yn y to
  9. Dros ben llestri
  10. Daw eto haul ar fryn


Roedd y bachgen yn wen o glust i glust pan cafodd ei feic newydd.

Eisteddwch ar y mat heb siw na miw meddai'r athrawes.

Rydw i wedi cael llond bol o'r gacen jocled yma.

Da iawn chdi am wneud dy orau glas heddiw.

Paid a gneud mor a mynydd allan o betha.

Rydw i wedi cael dillad newydd sbon.

Rydw i wedi gwneud cardyn i godi calon Nain.

Mae Meic wedi rhoi'r ffidl yn y to efo'i waith mathemateg.

Peidiwch a mynd dros ben llestri meddai Sion wrth y plant.

Daw eto haul ar fryn i bawb.