sefydlu, datblygu, helaethu a hyrwyddo Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
cefnogi, yn rhinwedd hynny, yr egwyddor o gyfundrefn addysg annibynnol i Gymru.
Enw'r Gymdeithas fydd
'Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg'.
Iaith arferol y Gymdeithas fydd y Gymraeg
Nod y Gymdeithas yw :
Cyfansoddiad CYDAG (Cynradd)
Aelodau'r Gymdeithas fydd ysgolion Cynradd sy'n cefnogi nod y Gymdeithas.
Swyddogion etholedig y Gymdeithas fydd y Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Ysgrifennydd Gohebol,
Ysgrifennydd Cofnodion a'r Trysorydd, y pump i'w hethol yng Nghyfarfod Blynyddol y Gymdeithas
yn flynyddol. Bydd y Cadeirydd yn cyflwyno adroddiadau blynyddol ym mhob Cyfarfod Blynyddol.
Aelodau Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas fydd y swyddogion ynghyd â chynrychiolwyr sirol.
Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn ôl y galw, neu yn ôl galw'r Cadeirydd.
Bydd gan y Pwyllgor yr hawl i wahodd unrhyw aelod neu berson arall i'w cyfarfodydd i ymgynghori.
Bydd gan y Pwyllgor hawl i enwebu unrhyw aelod o'r Gymdeithas i unrhyw gorff addysgiadol sy'n gwahodd cynrychiolaeth gan y Gymdeithas.
Y mae rhyddid i'r Gymdeithas benderfynu ymaelodi ag unrhyw gymdeithas addysgiadol arall heb ddirymu'r cymalau uchod, i ethol cynrychiolwyr i'r gymdeithas arall ac i dderbyn cynrychiolaeth gan y gymdeithas arall.
Gellir newid y Cyfansoddiad hwn trwy gynnig gwelliant/gwelliannau i'r Cadeirydd. Bydd cyfarfod y Pwyllgor Gwaith yn trafod unrhyw welliant ac yn cynnal pleidlais.
Cyflwynir unrhyw newidiadau cyfansoddiadol i'r cyfarfod blynyddol yn ystod y
Gynhadledd Flynyddol.