CYDAG (Cynradd) - Cynhadledd 2018
Cynhaliwyd y gynhadledd Gynradd eleni yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod gyda rhyw 80 o gynadleddwyr yn bresennol. Thema’r Gynhadledd oedd:
Pwysigrwydd Creadigrwydd ar draws y Cwricwlwm
Cafwyd cyflwyniadau arbennig iawn gan yr amrywiol gyfrannwyr yn pwysleisio yr ochrgreadigol o fewn y cwricwlwm ysgol. Rhoddwyd pwyslais yn ystod y bore ar yr ochr Dechnoleg Gwybodaeth, Llythrennedd a Rhifedd tra yn y prynhawn roedd y ffocws ar yr ochr greadigol drwy’r Celfyddydau.
Yn ôl ein harfer cafwyd cyflwyniad gan un o Arolygwyr ESTYN ac eleni Mr Huw Watkins AEM oedd yn cyflwyno. Rhoddodd gyflwyniad arbennig iawn ar ofynion presennol y fframwaith arolygu, y disgwyliadau parthed teithiau dysgu, ymateb i waith disgyblion a’r gofynion o ran
y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Croesawodd y Cynhadleddwyr yr holl gyflwyniadau gan nodi’n glir eu bod wedi derbyn stôr gyfoethog iawn o syniadau a chynghorion doeth er mwyn datblygu yr elfen greadigol nôl yn eu hysgolion. Gwelwyd hefyd bod llawer wedi defnyddio’r gynhadledd fel cyfle i ddatblygu partneriaethau o ran arfer dda lle medr ysgolion drefnu i ymweld a’u gilydd ac i ddatblygu syniadau er lles y disgyblion oedd yn eu gofal.
Feglywodd y cynadleddwyr hefyd yn ystod y sesiwn Cyfarfod Blynyddol fod CYDAG wedi hyfforddi dros ddwy fil o athrawon a chymorthyddion ysgol yn ystod y flwyddyn addysgol ddiwethaf. Mae hyn yn gynnydd mawr ar y blynyddoedd blaenorol a diolchwyd i Mrs Wendy Thomas y Swyddog Datblygu am eu gwaith clodwiw ynghyd a’r holl ddarparwyr a hyfforddodd staff ysgolion yn enw CYDAG Cynradd Cymru.
Cafwyd cyfle hefyd yn ystod y Gynhadledd i’r cynadleddwyr nodi pa hyfforddiant yr hoffent i CYDAG ddarparu yn ystod y flwyddyn nesaf mewn perthynas a blaenoriaethau Addysgol Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol Cynhadledd Gynradd CYDAG yn 2018 pasiwyd yn unfrydol y cynhelir cynhadledd eto yn 2019 a chytunwyd ei chynnal ar Ddydd Gwener, Hydref 18fed 2019 yng Ngwesty’r Metropole Llandrindod.
Beth am ddod draw i’r Metropole ar nos Iau Hydref 17eg ar gyfer cinio blynyddo lCYDAGfel eich bod yno mewn da bryd ar gyfer cynhadledd wych arall yn 2019?
Edrychwn ymlaen at eich croesawu.
GethinThomas - Cadeirydd