Pam creu y wefan?

Technoleg yw'r dyfodol! Ers i ni ddechrau fel disgyblion yn Ysgol Penboyr chwech mlynedd yn ôl, rydym wedi mynd o chwarae gemau addysgiadol ar y cyfrifiadur yn y Meithrin i ddysgu fod y we yn hwyl, ond hefyd yn lle peryglus!

Dros y chwe mynedd diwethaf, rydym wedi bod yn dysgu sut i gadw'n ddiogel ar lein a sut i warchod ein hunain nawr ac yn y dyfodol. Mae e-ddiogelwch yn bwysig iawn ac yn rhan o'n gwersi Technoleg Gwybodaeth. Rydym yn cael ein hatgoffa'n aml i fod yn ymwybodol o fwlio seibr a pheryglon ar lein! Yn ystod ein gwersi rydym yn trafod hyn ac yn creu posteri a gemau gwahanol ar e.ddiogelwch. Yn ddiweddar, daeth PC Ian i siarad gyda ni am beryglon bwlio seibr a pha oedran y dylem fod i fynd ar safleoedd gwe, apiau a gemau.

Gan ein bod wedi dysgu cymaint am e.ddiogelwch, penderfynom i rannu ein gwybodaeth gydag eraill a chreu gwefan i dynnu sylw at fod yn saff ar lein. Gobeithiwn wrth i chi ymweld â'n gwefan y byddwch yn cofio'r negeseuon am gadw'n saff ar y we.

Rydym wedi creu ein tudalennau a'n gemau yn J2E a defnyddio a gwefan j2bloggy i arddangos ein tudalennau. Y ffordd orau i edrych ar ein gwefan yw defnyddio Mac neu PC. Os ydych yn defnyddio tabled, y ffordd orau i weld y wefan yw dal yr ipad yn llorweddol.

Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau a dysgu sut i fod yn saff ar gyfer y dyfodol.