Sut i
yn saff
Rydym yn gyffrous yn Ysgol Cae'r Felin am fod gennym flog sy'n rhoi cyfle i rannu ein gwaith gyda pobl ar draws y byd!

Bydd ein blog yn cynnwys amrywiaeth o waith plant, gemau wedi
eu cynllunio gan y disgyblion, prosiectau, posau a blogiau wedi eu ysgrifennu am yr hyn yr ydym yn ei wneud ym Mhenboyr. Gwahoddwn chi i ysgrifennu sylwadau ar y blog!
Mae'n bwysig ein bod yn deall sut i ddefnyddio'r blog a'r rhyngrwyd yn
ddiogel. Mae rhaid sefydlu y rheolau canlynol i sicrhau fod y disgyblion
yn saff wrth flogio:-
Defnyddiwch eich enw cyntaf, peidiwch byth a rhoi cyfenw.

Arhoswch yn saff. Peidiwch datgelu manylion personol,
lluniau na rhannu cyfrinair gyda neb.

Defnyddiwch Saesneg cywir, yn cynnwys sillafu, gramadeg
ac atalnodi - dim iaith neges testun (text).

Byddwch yn gwrtais - Peidiwch rhoi dim allai niweidio person.
Byddwch yn gwrtais a phositif a defnyddiwch sylwadau
caredig i annog y disgyblion, peidiwch byth ysgrifennu
sylwadau negatif.

Gofynnwn i rieni a theulu wrth adael sylwadau i ddefnyddio
eu henwau cyntaf yn unig neu llythrennau cyntaf enwau, fel
na ellir adnabod y plentyn.

Bydd y sylwadau yn cael eu gwirio cyn eu cyhoeddi ar y blog.
Ysgol Cae'r Felin