Enw:- William Salesbury

Ganwyd:- 1520

Cartref:- Llansannon, Conwy

Addysg:- Rhydychen

Swydd:- Cyfieithydd

Bu farw:- 1584

William Salesbury oedd prif gyfieithydd y Testament Newydd Cymraeg cyntaf.

Ganwyd tua 1520 ym mhlwyf Llansannon, Conwy.

Fe astudiodd ieithoedd Hebraeg, Groeg a Lladin yng Ngholeg Rhydychen.

Nid rydyn yn hollol siwr pryd farwodd, ond credwn tua 1584.

Roedd William Salesbury eisiau darparu beibl i'r bobl Cymraeg yn eu hiaith ei hun.

Pasiodd gyfraith i gyfieithu y Beibl a'r Llyfr o gweddi cyffredin mewn i'r Gymraeg, fe a Richard Davies, Esgob Dewi Sant, dechreuodd i cyfieithu yr ysgrythurau.

Gweithiodd yr Esgob Richard Davies a William Salesbury ar gyfieithu'r Testament Newydd yn Bishop's Place yn Abergwili, Caerfyrddin. Dyma safle Amgueddfa Sir Gaerfyrddin heddiw.

Cwblhawyd y gwaith cyfieithu erbyn 1567.

Roedd William Salesbury yn gyfrifol am rhan fwyaf o'r gwaith, nid oedd y fersiwn wedi cael ei ysgrifennu at ddeallusrwydd y bobl cyffredin cymraeg. Roedd yn cynnwys llawer o eiriau Lladin a Chymraeg oedd ddim yn cael eu defnyddio mewn sgwrs pob dydd, felly roedd yn galed i'w ddeall.

Yna dechreuodd William Salesbury a'r Esgob Richard Davies gyfieithu yr Hen Destament i'r Gymraeg, ond am ryw rheswm dechreuodd y ddau gweryla am ystyr rhyw air, felly stopiodd y gwaith a ni chafwyd fersiwn Cymraeg o'r Hen Testament tan gyhoeddwyd Esgob William Morgan ei cyfieithad o'r Beibl yn 1588.

Yna yn 1547 cyhoeddwyd William Salesbury geiriadur, hon oedd o bosib y llyfr cyntaf i fod wedi gael ei argraffu yng Nghymraeg.Tair mlynedd wedyn fe cyhoeddwyd llyfr i helpu y Saeson ddysgu Cymraeg.

Un o'i lyfrau mwya adnabyddus yw casgliad o ddiarhebion Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1547.