Aethom ar ymweliad i’r Amgueddfa yn
Abergwili i ymchwilio am wybodaeth am
Griffith Jones a Madam Bevan.
Gwelsom gadair freichiau Griffith Jones.
Daw’r gadair hon o Landdowror a chredir ei bod yn eiddo i Griffith Jones, a sefydlodd yr Ysgolion Cylchynol.
Gwelsom y portread hardd yma o Madam Bevan yn yr Amgueddfa.
Hyd y gwyddom, dyma’r unig bortread o un o fenywod pwysicaf Cymru.