Gadewch i ni gyflwyno
Griffith Jones i chi………
Cynhaliwyd ein hoedfa ddiolchgarwch yn ôl ein harfer. Thema’r gwasanaeth eleni oedd
‘ Diolch am Addysg ’.
Daeth tyrfa luosog i ymuno â ni yn Eglwys St. Barnabas ar ddydd Mercher, 9fed o Hydref, 2013.
Ni, dosbarth 4 oedd yn gyfrifol am y rhannau arweiniol.
Buom yn brysur iawn yn ysgrifennu sgript dosbarth
cyfan ar gyfer y gwasanaeth..
Ein siaradwr gwadd eleni oedd y Parchedig Brian Witt, Ficer Llanddowror.
Cafwyd neges bwrpasol ganddo am Griffith Jones