S.P.C.K Beibl Cymraeg 1799
Hwn oedd yr argraffiad cafodd Mary Jones oddi wrth Thomas Charles o'r Bala yn 1800.
Yn Rhagfyr 1799, cyhoeddwyd y Gymdeithas er Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol (SPCK) 10,000 o Feiblau a 2,000 o Destamentau Newydd yn y Gymraeg.
Sylweddolodd Thomas Charles bod rhaid gwneud rhywbeth er mwyn cael mwy o Feiblau byddai pobl yn medu fforddio.
Ar ddiwedd 1802, aeth Thomas Charles i Lundain am ychydig i fod yn bregethwr gwadd. Yn ystod ei arhosiad yno, cafodd y syniad er mwyn gwneud cyflenwad rheolaidd o Feiblau Cymraeg roedd rhaid ffurfio cymdeithas newydd ar gyfer hyn.
Aelod o'r Tract Society Grefyddol oedd Charles, ffurfiwyd ychydig flynyddoedd yn gynharach i gynhyrchu a dosbarthu llenyddiaeth Gristnogol. Daeth ei gyfle i siarad am y galw mawr am Feiblau yng Nghymru mewn cyfarfod pwyllgor y gymdeithas a gynhaliwyd yn Llundain ar 7 Rhagfyr. Yn y cyfarfod gofynnodd iddynt i ystyried sefydlu cymdeithas newydd.
Yn y cyfarfod roedd Cymro arall, Joseph Hughes. Roedd e yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Battersea yn Llundain ac ysgrifennydd y Tract Society Grefyddol. Ar ol gwrando ar Thomas Charles, cododd ar ei draed a dweud "Yn wir, gellid ffurfio cymdeithas i gynhyrchu Beiblau i Gymru, ac os i Gymru, pam nid ar gyfer yr Ymerodraeth a'r byd i gyd?"
O ganlyniad, ar 7 Mawrth 1804 mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llundain, ffurfiwyd Cymdeithas y Beiblau Prydeinig a Thramor.