Ganwyd Mary Jones yn 1784 yn Llanfihangel-y-Pennant. Yn 1800 fe wnaeth rhywbeth rhyfeddol a newidiodd gwrs hanes, nid yn unig yng Nghymru, ond drwy’r byd.
1784 Ganwyd Mary ar 16 Rhagfyr
1792 Mary yn dod yn Gristion
1794 Penderfynodd Mary gynilo ar gyfer prynu Beibl
1800 Cerddodd Mary 26 milltir o Lanfihangel-y-Pennant i’r Bala i brynu
Beibl wrth Thomas Charles
1804 Priododd Mary gyda Thomas Jones o Dywyn yn Eglwys Tal-y-Llyn
ar 27 Chwefror
1813 Mary a Thomas yn symud i’r Cwrt, Abergynolwyn
1813 Ganwyd ei mab, Lewis, ddydd Nadolig. Bu farw yn 1831
1815 Ganwyd ei merch, Mary, ym mis Rhagfyr, ond bu farw cyn ei bod
yn ddwy flwydd oed
1818 Ganwyd ei mab, Jacob, ym mis Chwefror. Bu farw yn 15 oed
1820 Symudodd y teulu i Fryn-crug
1820 Ganwyd ei mab Ioan. Ymfudodd i America rhwng 1841 a 1851
1822 Ganwyd ei mab, Ebenezer, ond bu farw yn ifanc
1826 Ganwyd ei merch, Mary, ar 8 Ionawr. Bu farw o’r diciau pan oedd
yn 5 oed
1849 Bu farw Thomas ei gŵr
1864 Bu farw Mary ar 29 Rhagfyr ac fe’i claddwyd yng Nghapel Bethlehem
ym Mryn-crug