Enw:- Bridget Bevan
Ganwyd:- 1698
Cartref:- Derllys Court,
Llannewydd
Merch y dyngarwr John Vaughan o’r Derllys oedd Madam Bevan a gwraig Arthur Bevan, cyfreithwr ac aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caerfyrddin rhwng 1727 a 1741.
Cymerodd Madam Bevan ddiddordeb byw a beirniadol yng nghynlluniau Griffith Jones.
Rhoddodd Madam Bevan lawer o arian i Griffith Jones er mwyn datblygu’r Ysgolion Cylchynol ymhellach.
Drwy ei gysylltiad â Madam Bevan y daeth Griffith Jones i adnabod hufen y gymdeithas yng Nghaerfyrddin a Llundain, ac ar ôl ei farwolaeth, hi fuodd yn gyfrifol am drefnu a chynnal yr ysgolion cylchynol.