Yr oedd yn bregethwr pwerus ac roedd yn pregethu yn yr awyr agored, fel gwnaeth y Methodistiaid yn hwyrach, ond doedd hyn ddim yn pleisio yr esgobion o gwbl!

Darganfu mai ychydig iawn o'i blwyfolion oedd yn gallu darllen a deall ei bregethau.

Penderfynodd ddysgu ei blwyfolion sut i ddarllen fel eu bod yn gallu darllen y Beibl eu hunain. Gydag amser, roedd y plwyfolion yma yn troi yn "athrawon" a cafodd eu hanfon i rannau o Gymru i ddysgu eraill sut i ddarllen. Dyma oedd dechrau yr ysgolion cylchlynol!

Byddent yn aros mewn ardal hyd at dri mis ac yn cynnal y gwersi hyn yn bennaf ar ddydd Sul. Byddent wedyn yn symud ymlaen i ardal arall i ddechrau ar y gwaith eto. Byddai'r "athrawon" yma yn gael eu talu am eu gwaith gan ddefnyddio arian a gasglwyd gan Griffith Jones.

Gwasgarodd y prosiect yma dros Gymru. Roedd pobl o bob oed yn dod i ddysgu sut i ddarllen y Beibl.

Yr iaith yn yr ysgolion hyn oedd iaith y bobl - Cymraeg.

Roedd llawer o dirfeddianwyr cyfoethog yn cyfrannu at gronfa waddol hon, neb mwy na Madam Bevan, a wnaeth gymryd at y gwaith ar ôl marwolaeth Griffith Jones yn 1761.

Amcangyfrifir erbyn ei farwolaeth yn 1761, roedd dros 300,000 o bobl wedi dysgu darllen.

Bu farw Griffith Jones yn 1761 yn 77 mlwydd oed, yng nghartref Madam Bevan yn Nhalacharn, lle bu'n byw ar ol marwodd ei wraig. Cafodd y ddau eu claddu yn Eglwys Llanddowror.

Cariodd Madam Bevan ymlaen gyda gwaith Griffith Jones hyd nes iddi farw yn 1779.

Nid yn unig yr oedd Griffith Jones yn arloeswr addysg fodern yng Nghymru, ond gwnaeth lawer i wneud y bobl yn genedl o ddarllenwyr Beibl.

Roedd Griffith Jones yn aelod brwdfrydig o'r Gymdeithas er Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol (S.P.C.K)

Cafodd Griffith Jones yr enw "Tad Addysg Poblogaidd" yng Nghymru a bu'n dysgu pobl i ddarllen fel y gallent fod yn Gristnogion da, a oedd yn golygu eu bod ond yn dysgu pethau i wneud gyda'r Beibl.

Roedd Griffith Jones yn offeiriad ym mhentref Llanddowror Sir Gaerfyrddin ac mae'n cael ei gofio am sefydlu'r ysgolion eglwysig cyntaf yng Nghymru.

Cafodd ei eni ym Mhant-yr-efail ger pentref Felindre yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd ei addysg yn ysgol y pentref lleol ac wedyn aeth i Ysgol Ramadeg Caerfyrddin.

Daeth yn rheithor ym mhlwyf Llanddowror yn 1716 lle yr arhosodd am weddill ei fywyd.