William Morgan
Roedd yr Esgob wrth ei gannwyll
gyda'i bluen wen ar waith,
ac fe chwiliai hwyr a bore
am air Duw yng ngeiriau'n hiaith.
Fesul cytsain a llafariad,
fesul sillaf, fesul sain,
chwiliai'n galed am y geiriau
yng nholeuni'r fflam fach, fain.
Cytgan
Diolch, diolch am y stori
o ardd Eden i fab Mair;
diolch,diolch am y gannwyll,
am y geiriau, am y Gair.
Ac mae'r Esgob William Morgan
eto'n fyw o fewn ei waith;
eto'n fyw rhwng cloriau'r Beibl,
eto'n fyw ym mer ein hiaith.
Os oes clustiau'n gwrthod clywed,
os yw'n golau ninnau'n brin,
mae ei eiriau'n dal i siarad,
mae ei fflam yn dal ynghyn.
Ceri Wyn Jones