Roedd yr Esgob William Morgan yn Offeiriad ac Ysgolhaig ac fe
helpodd i sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn ddiogel. Yn 1588
cyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg a daeth yn Esgob.
Cafodd ei eni tua 1545 ger Penmachno yng Ngwynedd. Roedd yn
byw mewn ffermdy gyda'i rhieni. Enw y ffermdy oedd 'Ty Mawr'.
Roedd William yn dalentog iawn. Cafodd ei addysg yng Nghastell
Gwydir ger Llanrwst. Talodd Morris Wynn, gwr lleol, i William
dderbyn ei addysg. Aeth William i Goleg Saint John, Caergrawnt
lle roedd myfyrwyr arall o Gymru. Dysgodd William ieithoedd
Lladin, Groeg a Hebraeg. Gweithiodd yn helpu myfyrwyr eraill yn
y coleg wrth lanhau eu hystafelloedd, paratoi bwyd a rhoddodd
William Morgan wersi i myfyrwyr llai galluog nag ef ei hun.
Dyma drefn y dydd:-
4:00y.b. codi
5:00y.b. dechrau darlithoedd
Roedd darlithoedd a gweithio i'r myfyrwyr yn parhau drwy'r dydd - roedd hyn yn cynnwys
bwyta, glanhau ystafelloedd a rhoi gwersi i'r rhai llai abl ond myfyrwyr cyfoethog.
Roedd bywyd yn y coleg yn llym- roedd prydau yn cynnwys darnau bychan o gig a bara.
Nid oedd tân yn yr ystafelloedd.
10:00 amser gwely.
Gwnaeth William Morgan lawer o ffrindiau Cymraeg
yng Nghaergrawnt a daeth i adnabod llawer o bobl
pwysig. Dywedwyd ei fod wedi pregethu o flaen y
Frenhines Elisabeth.
Ar ôl gadael y Coleg daeth yn Rheithor yn Llanbadarn
ac ar ol pum mlynedd symudodd i Llanrheadr ym
Mochnant, lle dechreuodd ei waith o gyfieithu'r Eglwys Sant Dogfan,
Beibl i'r Gymraeg. Llanrheadr-ym-Mochnant
Roedd cyfieithiad William Morgan yn agosach i Cymraeg pob dydd na cyfieithiad William Salesbury. Triodd ef yn fwriadol i ddefnyddio geiriau o'r Gogledd ac o Dde Cymru.
Dymuniad William Morgan oedd, cyfieithu'r beibl mewn i iaith Cymraeg bod pobl cyffredin yn gallu deall. Cefnogodd y Frenhines Elizabeth 1af ei waith a chytunodd taw iaith y Beibl oedd i fod yn iaith fod pobl Cymraeg yn gallu deall a darllen y Beibl.
Cliciwch ar gwrlyn y dudalen i droi i'r dudalen nesaf