Enw:- William Morgan

Ganwyd:- 1541

Cartref:- Tŷ Mawr, Wybrnant

Addysg:- Coleg Sant Ioan

Caergrawnt

Marw:- 1604

Cafodd William Morgan ei eni yn Nhŷ Mawr, Wybrnant, Penmachno yn 1541. Fe aeth i Goleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt yn 1563.

Astudiodd William Morgan Hebraeg, Groeg a Lladin, ac yn ystod y flwyddyn gyntaf yng Nghaergrawnt ymwelodd y Frenhiness Elisabth â'r Coleg ac fe wnaeth anerchiadau i'r myfyrwyr yn Groeg a Lladin. Efallai mai'r ymweliad yma a ysbrydolodd y gŵr ifanc i fod yr un, a fyddai yn y dyfodol, yn cyflawni'r Beibl cyfan i'r Frenhines yma.

Neilltuodd Morgan ei holl egni i'r gwaith o gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. I'w helpu yn y gwaith hwn, astudiodd ieithiodd sylfaenol y Beibl ac fe ddefnyddiodd Feiblau Saesneg Tyndale a Coverdale a Thestament Newydd Salesbury Davies.

Roedd hyn yn orchwyl anferth i un dyn. Ar ei lwyddiant dibynnai goroesiad y Genedl Gymraeg. Achubodd y Beibl Cymraeg yr iaith Gymraeg rhag dirywio fel y gwnaeth y Gernyweg ac iethoedd Celtaidd eraill. Diolch i William Morgan mae'r iaith Gymraeg yn fyw heddiw ac hi ydyw'r iaith fyw hynaf yn Ewrop.

Yn 1587 aeth William Morgan ar daith o ddau gant o filltiroedd ar gefn ceffyl yn cario'i lawysgrif werthfawr. Dim ond yn Llundain oedd hi'n bosib argraffu ei lyfr, a hynny gan argraffydd o'r enw Christopher Barker, a oedd yn Sais.Yr oedd hyn yn golygu ei fod yn gorfod aros yn Llundain er mwyn argraffu a chadw'r argraffydd rhag gwneud camgymeriadau. Yn y flwyddyn ganlynol, 1588, cyflwynodd William Morgan gopi o'i Feibl i'r Frenhines Elisabeth.

Bu farw yr Esgob William Morgan yn 1604 ac fe'i gladdwyd yng Eglwys Gadeiriol Llanelwy lle bu ef yn Esgob am dair blynedd olaf ei fywyd.

Bu farw yn ddyn tlawd ond fe adawodd gyfoeth difesur i'r genedl Gymreig - y Beibl yn Gymraeg