Enw:- Peter Williams
Ganwyd:- 1723
Cartref:- West Marsh ger Talacharn
Addysg:- Ysgol Ramadeg Caerfyrddin
Swydd:- Ysgol Feistr/ Pregethwr
Marw:- 1796
Ganwyd Peter Williams ar 7fed o Ionawr 1723 yn West Marsh, ger Talacharn, Sir Gaerfyrddin. Yn 1741 roedd Peter yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin. Gadawodd yr ysgol tua 1743 neu 1744 a daeth yn Brifathro yn Nghynwyl Elfed. Yn 1747 ymunodd a'r Methodistiaid ac yna dechreuodd fynd o amgylch y wlad yn pregethu. Priododd a Mary Jenkins yn Eglwys Llanarthne ac aethant i fyw i Gelli Lednais, Llandyfaelog.
Y peth gorau wnaeth e ei gyflawni oedd cyhoeddi Beibl Cymraeg efo sylwebaeth ei hunan ar ddiwedd pob pennod.
Cafodd Beibl Peter Williams ei argraffu yng Nghaerfyrddin gan argraffwyr John Ross. Hwn oedd y tro cyntaf i'r Beibl gael ei argraffu yng Nghymru. Roedd 'Beibl Peter Williams' yn boblogaidd iawn yng Nghymru, a cafodd sawl mil o gopiau eu cyhoeddi. Cafodd 3,600 o gopiau eu gwerthu am bris o 1l.
Ym mis Medi 1786 gofynnodd David Jones, Gweinidiog gyda'r Bedyddwyr ym Mhontypwl am help Peter Williams i olygu'r fersiwn Cymraeg o feibl poced John Canne. Cafodd 4,000 eu hargraffu a cafwyd nodiadau a chyfeiriadau Beibl Peter Williams ei hargraffu ar waelod y tudalennau.
Achosodd hyn dipyn o gynnwrf. Cafodd Willliams ei gyhuddo o newid geiriau dau bennill.
Yn y Gymdeithas De Cymru yn Llandeilo, ar 25ain o Fai 1791, cafodd Williams ei ddiarddel a'i stopio i werthu y Beibl newydd ymhlith y Methodistiaid.
Roedd yn ddiwedd trist i gyfraniad Peter Williams at ddatblygu'r Methodistiaeth.
Ond gwnaeth hyn ddim effeithio ar boblogrwydd Beibl 1770. Erbyn 1877 roedd wedi'i gyhoeddi mewn trideg-pedwar rhifyn.
Cadwodd Williams feddiant ar gapel Water Street, Caerfyrddin. Roedd yn dal yn boblogaidd a bu yn pregethu yng Nghaerfyrddin tan ei farwolaeth.
Bu farw ar 8fed o Awst, 1796 a bu farw ei wraig ar 8fed o Fawrth, 1822. Maent wedi cael eu claddu ym mynwent Llandyfaelog.