Cafodd Moses Williams ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin a Choleg y Brifysgol, Rhydychen.
Cafodd ei gladdu ar yr 2il o Fawrth 1742 ym mynwent Bridgewater.
Roedd yn achub llyfrau prin. Teithiodd ar hyd a lled Cymru, yn ymweld â'r plastai er mwyn archwilio eu llyfrgelloedd ac i gopïo neu gymryd dyfyniadau o'u llawysgrifau.
Daeth y Beibl Cymraeg (1717-18)i ddechrau drwy y Gymdeithas Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol (SPCK), a sefydlwyd yn 1698.
Gwerthwyd copïau i bobl oedd am ei brynnu am 4s 6d.a 5s. 6d. am rhai oedd wedi eu rhwymo.
Moses Williams oedd golygydd y rhifyn hwn, a oedd yn cael ei adnabod fel Beibl Moses Williams.
Roedd ganddo gefnogwyr yn y fenter e.e. Syr John Philipps o Gastell Pictwn, Griffith Jones Llanddowror, John Vaughan o Derllys (tad Madam Bevan), y pedwar esgob Cymreig, Esgobion Henffordd a Chaerwrangon (William Lloyd), a llawer o aelodau SPCK.
Argraffwyd deg mil o gopïau gan John Baskett,argraffydd y brenin, ef oedd yr unig un a hawl i argraffu'r Beibl. Roedd y daflen gyntaf wedi ei orffen a'i gynhyrchu erbyn mis Tachwedd, 1715 a'r gwaith i gyd erbyn Mai 1718.
Enw:- Moses Williams
Addysg:- Ysgol Ramadeg Caerfyrddin
a Choleg y Brifysgol
Rhydychen
Gwaith:- Achub llyfrau prin
Bu farw:- 2 Mawrth 1742