1545 Ganwyd William yn Nhŷ Mawr Wybrnant.

1549 "Y Ddeddf Unffurfiaeth" yn datgan y dylai addoli cyhoeddus gael

ei gynnal yn saesneg yn hytrach na Lladin.

1588 Elizabeth yn dod yn frenhines Lloeger.

1563 Elizabeth 1af yn cyflwyno deddfwyriaeth sy'n datgan bod rhaid i

bob eglwys yng Ngymru gael cyfieithiad Cymraeg o'r Llyfr Gweddi

Gyffredin a’r Beibl erbyn 1567.

1564 Richard Davies a William Salesbury yn cydweithio ar gyfieithu’r

Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin.

1567 William Salesbury yn cyhoeddi’r Testament Newydd yn y Gymraeg.

1579 William Morgan yn cychwyn cyfieithu'r Beibl i’r Gymraeg.

1588 Cyhoeddi Beibl Cymraeg William Morgan yn Llundain.

1595 Penodi William Morgan yn Esgob Llandaf.

1601 William Morgan yn dod yn Esgob St Asaph.

1604 Bu farw’r Esgob William Morgan yn 59 oed.

1620 Beibl yr Esgob Richard Parry diwygio cyfieithiad William Morgan

1630 ‘Y Beibl Bach’, - yr argraffiad poblogaidd cyntaf o’r Beibl Cymraeg

1717 Beibl William Moses, y Beibl Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi

gan S.P.C.K

1770 Beibl Peter Williams, Y Beibl Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi

gydag esboniad a’r Beibl cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru

1799 Beibl Cymraeg S.P.C.K. Hwn yw’r argraffiad a gafodd Mary Jones

gan y parchedig Thomas Charles o’r Bala yn 1800

1988 Adolygu Y Beibl Cymraeg

2004 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig

2011 Arfon Jones yn cyfieithu’r Beibl i Gymraeg bob dydd – Beibl.net