Islam

Mae Islam yn grefydd mae Mwslimiaid yn dilyn. Ystyr Islam yw

heddwch. Tarddwyd Islam yn Saudi Arabia ac mae dros biliwn o

bobl yn dilyn y crefydd yma. Symbol Islam yw chwarter lleuad a

seren. Dyma'r symbol:

Allah

Allah ydy'r person mwyaf pwysig oherwydd fe ydy'r Duw Islamaidd. Mae Mwslimiaid yn credu taw Allah creodd y byd allan o ddim byd ac ef sydd yn rheoli popeth a bod rheswm am bopeth. Does dim un llun o Allah. Gair Arabeg ac Islamaidd ydy Allah sy'n meddwl Un Gwir Dduw.

Llyfr Sanctaidd

Dim Beibl sydd gan y Mwslimiaid ond Qur'an (neu Koran). Yn y Qur'an mae cyfarwyddiadau manwl ar sut i fyw. Mae yna 114 Sura (pennod) yn y Qur'an. Geiriau Allah ydy'r Qur'an.

Muhammed

Cafodd Muhammed ei ddewis gan Allah trwy'r angel Gabriel i ledaenu neges Islam. Muhammed oedd wedi ysgrifennu y Qur'an. Roedd e wedi cymryd 22 mlynedd iddo ysgifennu'r Qur'an. Cafodd Muhammed ei eni yn 570 a bu farw yn 632 yn Saudi Arabia. Yn anffodus, bu farw ei dad pan cafodd ei eni ac yna chewch mlynedd yn ddiweddarach bu farw ei fam, felly, cafodd ei magu gan ei ddadcu.

Man Addoli

Mae Mwslimiaid yn addoli mewn Mosg. Mae glendid yn bwysig iawn i'r Mwslimiaid a cyn gweddio maen nhw yn golchi eu traed, gwyneb a'u dwylo, ac mae rhaid tynnu ei esgidiau cyn mynd i'r ystafell weddio. Maent yn gwynebu y dwyrain i weddio. Iman sydd yn arwain y gweddiau ac maent yn gweddio 5 gwaith y dydd.