Symbolau Cristnogol yn
St Barnabas
Drefach Felindre
Gan Lois Vobe
Symbolau Cristnogol yn
St Barnabas
Drefach Felindre
Gan Lois Vobe
Y Drindod
Mae'r Drindod yn symbol
o'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glan.
Symbol 1
Y Bugail a'r Defaid
Mae'r Bugail a'r Defaid yn symbol sy'n cadw ni'n saff oherwydd Iesu yw'r Bugail a ni yw'r defaid.
Pan byddwn mewn perygl bydd Iesu ein bugail yn ein cadw ni'n saff.
Symbol 2
Y llong
Mae'r tô yn edrych fel llong. Symbol o rywle diogel yn ystod y llifogydd yn stori Noa. Mae'r eglwys yn lle ddiogel i bawb.
Symbol 3
Y Groes
Mae'r Groes yn symbol i;n hatgoffa ni
am atgyfodiad Iesu ar ôl cael ei groeshoelio.
Symbol 4
Y Pysgod
Hefyd roedd rhan fwyaf o ddisgyblion Iesu yn bysgotwyr.
Mae'r pysgodyn yn symbol o fedyddio ac mae'r bedyddfaen yn dal dwr. Dyna ble mae pysgod yn byw.
Symbol 5
^
Y Golomen
Heddwch yw symbol y Golomen, a hefyd os ni fydd y Golomen yn dod nôl bydd Noa yn gwybod bod tir sych.
Symbol 6
Y Gannwyll
"Iesu yw goleuni'r byd" ydy ystyr y symbol yma.
Symbol 7
Wyau
Mae wyau yn cynrychioli bywyd newydd fel cafodd Iesu pan wnaeth ef atgyfodi.
Symbol 8
INRI
Ystyr INRI yw Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon.
Symbol 9
IHS a IHC
Mae y llythrennau IHS a IHC yn golygu Iesu.
Symbol 10
XP
Ystyr y llythrennau XP yw Crist.
Symbol 11
Bara a Gwin
Rydym yn cofio corff Iesu trwy fwyta bara, a gwaed Iesu trwy yfed gwin coch.
Symbol 12
Angor
Os ydych yn arsylwi'n ofalus mae croes yng nghanol yr angor, i gynrychioli croeshoeliad Iesu Grist ar y groes. Symbol o obaith.
Symbol 13
Alffa ac Omega
Ystyr Alffa ac Omega yw y dechrau a'r diwedd. Iesu Grist oedd y dechrau a'r diwedd.
Symbol 14
Enfys
Yn hanes Arch Noa roedd yr enfys yn arwydd wrth Dduw am ei addewid na fydd yn gorlifo'r byd eto a dweud bod popeth yn iawn. Mae'r enfys yn cynrychioli cyswllt Duw gyda'r byd.
Symbol 15