Bu farw Tom ar Awst 17 1956 yn 86 oed a bu farw Nel yn Ebrill 8fed 1965 yn 94 oed. Mae'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Drefach Felindre.
Buom ar daith o amgylch y pentref gyda Mrs Olive Campden, hanesydd lleol, ac aeth รข ni i weld y bedd. Ar y bedd hefyd, mae'n nodi marwolaeth ei merch Hannah Emily, a fu farw yn yr un flwyddyn a'i mham yn Gorffennaf 26ain 1965 yn Rhodeisia yn Affrica.
Man Gorwedd Nel
Dyma cofeb am fab Nel
William John a'i wraig Marged a wnaeth ysgrifennu'r llyfr
'O Drelew i Drefelin'.