Symudodd Nel i fyw a gweithio yn Llanwrtyd i wella ei Saesneg. Roedd Nel yn byw efo John Thomas, cerddor a chyfansoddwr poblogaidd. Fan hyn, roedd John tad Nel wedi cwrdd â'i ail wraig Sarah Hannah. Teimlai Nel yn drist oherwydd Hannah oedd enw mam Nel. Doedd Nel ddim yn fodlon ac ni wnaeth droi lan i'r priodas.

Blynyddoedd ar ôl i Hannah farw - aeth Nel, Dyfrig a'i thad nôl i ymweld â Chymru, gan adael Johnnie a'i wraig newydd Sarah i edrych ar ôl Llain Las. Pan gyrhaeddon nhw Lerpwl, roedd yna gannoedd o longau yn yr harbwr, pawb yn prysur, ac roedd hi'n swnllyd iawn yng nghanol y bwrlwm. Roedd pawb yn bloeddio! Ni allai Nel ddeall gair yr oedd pawb yn siarad... am eu bod yn siarad Saesneg.

Yn anffodus, roedd Nel yn hiraethu am Lain Las a Phatagonia. Nid oedd Nel yn gyfarwydd â ffordd o fyw Drefach Felindre ble byddai pawb yn aros i siarad gyda hi. Roedd Nel yn arfer byw ym mhell oddi wrth unrhyw cymdogion! Aeth Dyfrig i orffen yr ysgol yn Ysgol Ramadeg yng Nghastell Newydd Emlyn.

Tra ei bod nôl yng Nghymru, cafodd Nel a Dyfrig gyfle i gwrdd â'i mamgu (mam ei mham) yn Llaindelyn, Penrhiwpal. Teimlodd Nel yn llawen yn gweld ei mamgu. Dyma'r tro cyntaf iddi deimlo ei bod yn perthyn i Gymru.

Ymweld â Chymru

Fe wnaeth tad Nel benderfynu fod yn rhaid i'r teulu symud nôl i Batagonia efo'i wraig newydd. Er bod Nel yn dyheu am fynd nôl i Batagonia, ei chartref, ei theulu a'i ffrindiau, roedd hi'n siwr na ddywedodd ei thad wrth ei wraig newydd am y bywyd ym Mhatagonia a pham mor galed oedd angen iddi hi weithio i gadw ei thy newydd mor bell o Gymru.

Addawodd tad Nel gymaint yn ôl yng Ngymru, gwersi piano, dysgu sut i siarad Saesneg a mynd i'r siôp i brynu dillad newydd. Ni ddigwyddodd hyn gan fod ei thad yn treulio amser gyda'i wraig newydd.

Roedd Nel yn gweld hi'n galed i adael ei mamgu. Nel a Dyfrig oedd ei hunig deulu. Bu farw ei gŵr pan oedd yn ifanc iawn, collodd ei hunig ferch 8,000 milltiroedd bant ym Mhatagonia, a nawr roedden nhw'n symud nôl i Batagonia.

Hannah

Lerpwl

Llain Las

Drefach

Drefach

John a Sarah Hannah