Poncho Mamgu

Bu farw mam Nel pan oedd Nel yn 10 mlwydd oed. Roedd hyn yn anodd iawn iddi. Nid yn unig y golled a deimlodd ond nawr hi oedd yn gorfod gofalu am y tŷ, bwydo'r anifeiliaid, nôl dŵr a gwneud bara.

Roedd yr Indiaid yn hoff iawn o fara mam Nel a byddent yn galw o bryd i'w gilydd gan weiddi 'Poco Bara Poco Bara' a byddai mam Nel yn rhoi dwy dorth iddynt. Weithiau byddai'r Indiaid yn rhoi ceffyl iddynt yn lle bara.

Y tro yma, tra roedd Nel ar ei phen ei hun gyda'i brawd, daeth yr Indiaid Tehuelche i gasglu tu allan i Llain Las gan weiddi "Poco Bara, Poco Bara". Ar yr achlysur hwn, nid oedd bara i gael ganddi i'w roi, dim ond crwst. Cynigodd Nel y crwst iddynt yn nerfus, ac esboniodd bod ei mham wedi marw.

Daeth Y Prif Tehuelche oddi ar ei geffyl, tynnodd ei boncho a'i roi ar Nel. Nid oedd hyn yn weithred y byddai unrhyw brif Indiaid yn ei wneud. Gwelodd Nel byth yr Indiaid Tehuelche eto. Trysorodd ei phoncho, ac heddiw mae'r dilledyn amrhisiadwy yn dal yn ddiogel gyda'i theulu.

Hannah, mam Nel

Dyma Arwyn, brawd Eiry Palfrey,

gyda'r poncho heddiw.