Ar fore dydd Iau Ebrill 30ain, daeth yr Esgob o Ty Ddewi i
Ysgol Cae'r Felin. Enw'r Esgob oedd Wyn Evans a cafodd yr
Esgob ei eni yn Hwlffordd. Mae'r Esgob yn briod ond nid oes
ganddo blant. Mae'n byw yn Caerfyrddin achos mae'n
man canolig i fyw ac mae'n rhwydd i deithio bobman.
Cafodd yr Esgob ei ethol yn y flwyddyn 2008. Hoff liw yr
Esgob yw aur ond mae'n casau porffor, ei hoff ganwr pop yw
Johny Cash a'i hoff dim rygbi yw'r Scarlets. Mae Wyn Evans
sef yr Esgob yn hoffi pysgodyn a cyrri ac mae'n hoffi
llyfrau hanesyddol a'i hoff ffilm yw 'Madagascar'.
Mae'r Esgob yn hoffi'r swydd ond mae gormod o waith
papur i'w wneud! Mae gan yr Esgob dri gwisg yn ei gar
bob amser. Ei hoff emyn yw 'Rhagluniaeth mawr y nef'
a phob blwyddyn mae'r Esgob yn teithio dros 15,000 milltir yn
son am ei waith. Roedd yr Esgob am fod yn archaeolegwr
pan oedd yn grwt bach.
Hoff beth yr Esgob am ei swydd yw cyfarfod a
gwahanol bobl. I orffen, mae gan yr Esgob caplan sydd yn
teithio bob man gyda fe.
Wnes i mwynhau ymweliad yr Esgob oherwydd roedd yn
ddyn pwysig ac roedd llawer ganddo i ddweud wrtho ni, ac roedd wedi ateb ein cwestynau i gyd!
Esgob Ty Ddewi
gan Kari Graves