Tân Tachwedd yn tanio
Rocedi rhyfeddol yn rasio
Lliwiau llachar yn llenwi pob twll a chornel
Fflamau ffantastig yn fflachio
Gwreichion gwych yn gwingo
Guto'n gorwedd ar y goelgerth
Goleuadau yn gwenu yn yr awyr
Pawb yn stwffio selsig seimllyd
Cleciadau cwl yn canu
Sêr yn syllu arna fi
Tân Tachwedd