Ymfudo i Patagonia - 1865
Teithiodd y Cymru i Lerpwl i ddal y llong Mimosa ar 25ain o Fai,
1865, aeth tua 160 o bobl gan gynnwys plant.
Cyfeirir at Michael D Jones fel 'Tad y Wladfa', ond ni fu Michael D
Jones byth yn byw ym Mhatagonia.
Talodd Michael £2,500 i logi y Mimosa, a chyfrannodd tuag at
longau eraill a gariodd y Cymru drosodd i Batagonia dros y
blynyddoedd.
Doedd rhai teuluoedd ddim yn gallu fforddio i aros yn Lerpwl tra
eu bod yn aros i fynd ar y llong, felly rhoddodd Michael D Jones
a'i wraig fenthyg arian iddynt i dalu am fwyd a llety.
Nid llong y Mimosa oedd i fod i fynd â'r Cymru i Batagonia ond llong o'r enw Halton Castle, ond nid oedd honno ar gael, felly roedd yn rhaid iddynt ddod o hyd i long arall yn gyflym.
Llong cario te oedd y Mimosa, nid y llong orau i
gludo pobl ar draws yr Iwerydd gan nad oedd wedi cael
ei chynllunio i gario pobol, felly roedd rhaid addasu y tu
mewn ar gyfer pobl. Talodd y teithwyr £12 i oedolyn a £6
y plentyn ar gyfer y daith, er os nad oeddynt yn medru talu
roedd pawb oedd am fynd yn cael mynd. Nid oedd neb yn
gwybod pa mor hir byddai'r fordaith. Aethant â darpariaeth
digonol ar gyfer mordaith o chwe mis.
Ar 24ain o Fai, aeth y teithwyr ar fwrdd y Mimosa. Daeth y
rhan fwyaf o'r teithwyr o Aberpennar ac ardaloedd Aberdâr,
nid oedd llawer o'r ardaloedd amaethyddol.
Roedd cannoedd o gefnogwyr wedi dymuno pob lwc i'r Cymry ar eu taith i Dde America, ond roedd rhai pobl yn ddig iddynt am eu bod yn troi eu cefnau ar Gymru. Dechreuodd rhai o'r dyrfa weiddi arnyn nhw. Roedd llawer o bobl yn grac bod y Gymraeg yn cael i siarad mewn dinas Saesneg.
Codwyd y faner Gymreig yn uwch ar y Mimosa a dechreuodd y teithwyr ganu anthem a gyfansoddwyd ar gyfer yr achlysur i dôn 'God Save the Queen'. Roedd y dorf yn meddwl eu bod yn canu 'God save the Queen' yn y Gymraeg, a stopiodd y gweiddi! Arhosodd y Mimosa yn yr Afon Mersi am dri diwrnod hyd nes bod y gwynt yn distewi. Ar brynhawn y 28ain o fis Mai, codwyd yr angor a dechreuodd y Mimosa ar ei thaith i Batagonia.
Nid oedd y daith yn hawdd ar y Mimosa. Dyma ffeithiau o'r daith: -
Parodd y daith 2 fis
Dechreuodd yn mis Mai 25ain, 1865
Cyrhaeddodd ar 28ain o Orffennaf, 1865
Bu farw 4 plentyn
Bu farw 1 plentyn tra oeddynt yn docio
Tywydd gwael
Teithwyr yn sâl
Dau o blant wedi eu geni
Priodas wedi ei gynnal ar fwrdd y llong