Pedair mlynedd yn ôl prynodd Ysgol Penboyr system radio ein hunain wrth y cyflwynydd radio Marc Griffiths trwy Radio Cymru FM. Ers hynny, mae disgyblion yr ysgol yn cael y cyfle i recordio a golygu rhaglenni radio. Mae nhw'n mwynhau'r cyfle o gael bod yn gyflwynwyr radio, yn cyfweld gwahanol bobl ac yna'n golygu yr hyn maent wedi'i recordio gan ddefnyddio rhaglen o'r enw Audacity.Yn ystod y broses yma mae'r disgyblion yn defnyddio dull addysgu cyfoedion, mae hyn yn cynyddu hyder y disgyblion yn ogystal â'i sgiliau cyfathrebu ac yn amlygu pwysigrwydd gweithio fel rhan o dîm. Mae'r rhaglen gorffenedig yn cael ei lan lwytho at Cymru FM.

Mae'r disgyblion wedi recordio a golygu rhaglen radio yn sôn am hanes Cranogwen.  

Merch o flaen ei hamser oedd Cranogwen. Roedd hi'n dod o gyfnod ble fyddai mwyafrif y menywod yn wragedd tŷ ac yn gofalu am y plant. Roedd hi'n fenyw a oedd wedi cael addysg, prif lywiowr, Prif Athrawes pan oedd hi'n 21ain oed, enillodd nifer o weithiau mewn Eisteddfodau, pregethwraig a darlithwraig, athrawes Sol-Ffa ac arweinydd "Band of Hope".  Pan oedd hi'n 30 oed, teithiodd ar draws America yn darlithio i'r cymunedau Cymreig oedd yno. Am ddeng mlynedd, hi oedd golygydd cylchgrawn ‘Y Frythones’, cylchgrawn i ferched Cymru. Hi wnaeth hefyd sefydlu Mudiad Dirwest y Merched sy'n dal i gael ei adnabod fel Undeb Dirwestol Merched y De.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gyda Mr Jon Meirion Jones, hanesydd o Langrannog, Richard o Goleg Trefeca, y bardd Mererid Hopwood a Catrin Edwards, cyfarwyddwraig rhaglen teledu Mamwlad. Gan fod 2018  yn flwyddyn y môr, mae'r caneuon sydd gyda ni ar ein rhaglen i gyd yn gysylltiedig a'r môr!

Hoffai'r disgyblion ddiolch i bawb a wnaeth helpu i greu eu rhaglen radio.