Rhaglen Weithredu’r Wobr – Efydd

Er mwyn llwyddo i ennill y wobr efydd rhaid:

Rôl y Disgyblion

· Fod yn ymwybodol o dargedau a nod y Siarter Iaith

· Dilyn egwyddorion yr ysgol a’r Siarter Iaith

· Cynnwys fel eitem reolaidd ar agenda’r Cyngor Ysgol

Rôl y Rhieni

· Fod yn ymwybodol o nod y Siarter Iaith ac i fod yn gefnogol i’rplant

ac i’r ysgol

· Cefnogi manteision dwyieithrwydd

· Arweiniad i rieni di-gymraeg ar sut i fynd ati i gael gwersi Cymraeg

yn lleol

Rôl y Llywodraethwyr

· Cyfrannu tuag at lunio strategaeth er mwyn annog disgyblion i

wneud defnydd llawn o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd

· Cyfrifoldeb penodol dros y Siarter Iaith

· Codi ymwybyddiaeth o’r Siarter Iaith

Rôl yr Ysgol

· Anelu at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol y disgyblion o’r Gymraeg

· Cyflwyno gwybodaeth am gynllun y Siarter Iaith i ddisgyblion a rhieni

· Rhoi arweiniad i rieni di-Gymraeg ar sut i fynd ati i ddysgu Cymraeg

yn lleol

· Cofnodi cynnydd a mesur effaith wrth weithredu’r Siarter Iaith

· Cynllunio gweithgareddau effeithiol sydd ynghlwm â’r Siarter Iaith

Efydd

Efydd