Tân Gwyllt
Tân Tachwedd yn tasgu,
Fflamau gwych yn gwingo.
Rocedi swynllyd yn rasio,
Maent wedi cael eu tanio.
Lliwiau amryliw yn llenwi,
Y lle fel petai yr awyr yn llun enfawr.
Sêr prydferth gwych,
Goleuni arbennig yn y awyr,
Gwreichion yn cwympo,
O'r goelcerth fawr a Guto ar ei ben.
MMMM!
Byrgys a sglodion, a phawb yn ei stwffio.
Cleciadau cŵl yn clecian,
Mae hi mor oer amser i mi fynd.