Tân Gwyllt
Tân Tachwedd yn hisian
Roced swnllyd yn ffrwydro
Lliwiau prydferth yn llachar
Fflamau rhyfeddol yn llamu
Gwreichion byddarol yn tasgu
Guto'n llosgi ar y goelcerth
Golau pert yn fflachio
Stwffio losin a joio
Cleciadau byddarol yn troelli
Ser hudolus yn ddisglair
Tân Tachwedd yn chwyrlio