Lance Armstrong

Arwr neu Dihiryn?

Beiciwr professiynol oedd Lance Amstrong ac yn 1993 ennillodd ras beicio pencampwriaeth y byd.Yn 1996 cafodd cancr. Rhoddwyd shiawns o 10% y cant iddo fyw ac 1% y cant reidio ei feic eto.

Gwellodd, ac yn 1999 fe ennillodd ras byd enwog y 'Tour De France'. Yn y flwyddyn 2000, sefydlodd elusen 'LiveStrong'. Elusen i bobl a cancr yw 'LiveStrong' yn rhoi gobaith i bobl sydd yn dioddef neu wedi cael cancr.

Ennillodd Lance Amstrong y 'Tour De France saith gwaith yn olynnol ac yna gwnaeth ymddeol. OND, roedd rhai pobl yn amau fod Lance Amstrong yn twyllo ac yn cymryd cyffuriau.

Yn 2009 gwnaeth reidio yn y 'Tour De France' eto a daeth yn 3ydd.Cymerodd 500 o brofion cyffuriau ond ni fethodd un erioed.Yn 2012 gwnaeth Lance Amstrong cyfaddef cymryd cyffuriau.

Yn ei yrfa beicio fe wnaeth ennill £125,000,000 milliwn o bunoedd a codi dros £300,000,000 o bunoedd i'w elusen 'Livestrong'.

FELLY, ydy Lance Amstrong yn arwr neu dihiryn?. Cred rhai fod Lance Amstrong yn arwr oherwydd gwnaeth goroesu cancr a codi arian ac ymwybyddiaeth afiechyd creulon cancr. Cred eraill ei fod ddihiryn oherwydd iddo dwyllo bawb a chymryd cyffuriau.

Rwyn credu fod Lance Armstrong yn ddihiryn oherwydd gwnaeth dwyllo bawb a cymryd cyffiriau dim ond i ennill.

Gan Cerys Jones