Pam Ymfudo i Batagonia?

Yn y ddeunawfed ganrif, doedd amodau byw ddim yn hawdd iawn i'r Cymry Cymraeg. Roedd bywyd a chymunedau gwledig yn diflannu oherwydd y galw cynyddol ar gyfer diwydiant.

Yn anffodus i'r Cymry, roedd y Saeson yn berchen mwyafrif o'r ddaear. Roedd y tirfeddianwyr cyfoethog yn ceisio newid diwylliant a chrefydd Cymru. Roedd llawer o lo, slat, haearn a dur i gael yng Nghymru. Yn raddol, roedd y cymunedau gwledig yn dirywio a chymerodd canolfannau diwydiannol drosodd.

Roedd sawl un yng Nghymru wedi'u dadrithio efo'r posibilrwydd hwn. Gyda chyflwyno'r 'Welsh Not' mewn ysgolion, credai'r Cymry eu bod yn raddol yn cael eu hamsugno i mewn i Loegr.

Yn sgil hyn, penderfynodd rhai Cymry ddechrau bywyd newydd ac ymfudo i America a Awstralia er mwyn sefydlu cymunedau newydd Cymraeg.

Roedd rhan fwyaf o aneddiadau nodedig yn Utica, Efrog Newydd a Phennsylvania. Tra bod rhai o'r cymunedau'n llwyddiannus, roedd llawer o fewnfudwyr Cymraeg wedi darganfod eu bod o dan bwysau enfawr i ddysgu'r iaith Saesneg ac integreiddio mewn i'r ffordd Americanaidd o fyw. Roeddent yn gobeithio cael eu derbyn i fewn i'r gymuned a chwilio cyflogaeth, ac felly, roedd y gallu i siarad a deall yr iaith Saesneg yn bwysig. Yn anffodus, roedd mwyafrif o'u diwylliant a'u hiaith wedi marw dros amser.

Roedd gwladgarwyr Cymru yn poeni am hyn. Roeddent am ddarganfod lle y gallent siarad yr iaith Gymraeg a chadw'r diwylliant, traddodiadau, a chredoau, ac felly, doedd yr Unol Daleithiau ddim yn opsiwn.

Michael D. Jones oedd y gŵr gyda'r weledigaeth o sefydlu Gwladfa Gymreig. Roedd am gadw bant o'r dylanwadau Saesneg ac Americanaidd a sefydlu gwladfa, lle roedd yr iaith Cymraeg a'n traddodiadau Cymreig, yn gallu ffynnu.

Roedd Michael D Jones wedi addo i'r ymfudwyr y byddai bywyd y llawer yn well mewn gwlad newydd. Ar y poster, dywedwyd 'Gwlad doreithiog nac yw'n feddiannol gan neb ond ychydig Indiaid. Rhoddir i bob teulu 100 erw o dir, ceffylau, ychain , defaid, gwenith a chelfi. Rhed yr afon drwy y doldir a heidia yr anifeiliaid yn y porfeydd gwelltog'.

Hwyliodd y llong Mimosa o Lerpwl Mai 16eg 1865, ac ar ôl cyrraedd Gweriniaeth Arianin roedd pobeth ym Mhatagonia i fod yn y Gymraeg.

Diwidiant glo

Caledi bywyd yn y cartref

Michael D Jones

poster addewid

Michael D Jones