Lance Armstrong

Arwr neu Dihiryn?

Beiciwr proffesiynol oedd Lance Armstrong ac yn y flwyddyn 1993 ennillodd pencampwriaeth y byd. Yn anffodus yn y flwyddyn 1996 cafodd Lance Armstrong Cancr, ei siawns o fyw oedd 10% ac ei siawns o reidio ei feic eto oedd 1%. Roedd e mor drist a diwrnod gwlyb.

Ar ôl amser, gwellodd ac yn y flwyddyn 1999 fe gymrodd rhan yn y Tour de France a ennillodd am y tro cyntaf yn 1999, tair mlynedd ar ôl cael Cancr! Yn 2000, sefydlodd elusen 'Livestrong'. Elusen i bobol a Cancr yw 'Livestrong' yn rhoi gobaith i pobol sydd yn dioddef neu wedi cael Cancr.

Fe wnaeth Lance Armstrong enill y Tour de France saith gwaith a wedyn wnaeth ymddeol. Yn 2009, daeth allan o ymddeoliad ac reidiodd ei feic yn y Tour de France un waith eto, ond y tro yma daeth yn drydydd. Roedd rhai pobol yn meddwl ei fod yn cymryd cyffuriau cyn oedd wedi ymddeol.

Yn 2013, yn fyw ar y teledu fe wnaeth Lance Armstrong cyfaddef ei fod wedi cymryd cyffuriau ei esgus oedd bod bawb arall yn gwneud e hefyd. Yn ei yrfa beicio fe enillodd £125,000,000 o bunnoedd a cododd dros £300,000,000 o bunnoedd. Waw !!!

Felly, arwr neu dihiryn? Cred rhai pobol fod Lance Armstrong yn arwr oherwydd- enillodd y Tour de France saith gwaith, fe wnaeth sefydlu elusen Livestrong a rhoddodd gobaith i miliynau o bobol, a cafodd Cancr ei hun a'i goroesi e. Ond, mae rhai pobol yn meddwl ei fod yn ddihiryn oherwydd - cymrodd cyffuriau i wneud ei berfformiad yn well a twyllodd pawb i enill y Tour de France. Roedd e mor ddrwg a ceffyl yn cicio.

Heb os nac onibai yn fy marn i rwyn credu fod Lance Armstrong yn arwr, oherwydd sefydlodd elusen Livestrong ac fe wnaeth maeddu Cancr. Cymrodd cyffuriau ond roedd pawb arall yn gwneud e hefyd. Beth yw'ch barn chi arwr neu dihiryn?

Gan Meriel Paget