Gweddïwn

Arglwydd, diolch am y cynhaeaf. Diolch am helpu pobl i gael bwyd iach ar hyd y flwyddyn ddiwethaf. Diolch am ein dysgu ni bod rhaid helpu eraill sy'n llai ffodus oherwydd dydy pawb ddim yn gallu dod adref a chael cwpaned o ddwr glan. Mae rhaid i rai pobl a phlant gerdded milltiroedd i gael dwr, ac yna, yn anffodus dim ond dwr budr maent yn gallu ffeindio!

Diolch am bobl sy'n ein helpu. Diolch am y deintydd sy'n cadw ein dannedd yn iach. Diolch am deulu sy'n caru ni'n fawr iawn ac sy'n cadw ni'n ddiogel. Diolch am ffrindiau sy'n hoffi chi am pwy ydych chi, Diolch am ddoctoriaid am gael Dadcu yn iach unwaith eto ar ol iddo ef bod yn sal iawn gyda stroc, Diolch am milfeddygon sy'n safio bywyd ein anifeiliaid neu dim ond yn cadw nhw'n hapusach neu'n mwy iach. Diolch am athrawon sy'n dysgu a helpu ni ddatblygu yn well bob dydd.

Yn olaf, ond nid y lleiaf pwysig, diolch am y gwasanaethau brys fel yr injan dan, yr heddlu a'r pobl ambiwlans.

Helpa ni i gael mwy o fwydydd iach a diod i'r pobl llai ffodus yn y byd.

Amen.