Yn y Rhondda

cafodd Nel ei geni.

Caerfyrddin

Cafodd John,tad

Nel ei eni yn

Llangeler

Aberteifi

Castell Newydd Emlyn

Rhondda

Llangeler

John Davies

(John y Bwcs)

Cafodd John Davies ei eni a'i fagu yn Bwlch-Clawdd, Llangeler, a bu'n gwasanaethu ar fferm yn agos i Drefach cyn iddo adael, gyda'i deulu, i weithio yn y pyllau glo yn y Rhondda. Roedd gwell arian yn y pyllau glo ond roedd yr amodau yn ddiflas iawn. Roedd e wedi cael ei siomi gyda gweithio yn y pyllau glo, roedd yn dywyll ac roedd straen ar ei gorff ac roedd yna lygod mawr yna, felly penderfynodd agor siop lyfrau yn gwerthu Beiblau, Testamentau a llyfrau emynau.

Pan glywodd John Davies am Batagonia, penderfynodd i ymfudo gyda'i deulu 7,000 o filltiroedd i ffwrdd i'r wlad roedden nhw'n meddwl oedd yn well. Gwlad fyddai'n cadw'r iaith Gymraeg a'r traddodiadau.

Nid oedd e'n gwybod am y caledi y bydden nhw yn ei dioddef. Roedd Michael D.Jones wedi addo 100 erw o dir, ceffylau, ychain,defaid, gwenith a chelfi. Roedden nhw yn siomedig iawn gyda'r tir, roedd yn anialwch ac yn anfrwythlon a gwelon nhw ddim ceffylau na defaid.

Ei cartref ym Mhatagonia oedd Llain Las. Roedd gan John bedwar o blant, Johnnie, William, Nel a Dyfrig a gafodd ei eni ym Mhatagonia. Roedd ei wraig Hannah wedi marw ar Ionawr y 30fed 1881 ar enedigaeth ei phumed plentyn. Roedd hi yn 36 mlwydd oed.

Priododd wraig arall o'r enw Sarah Hannah. Roedd e wedi ei chyfarfod â hi pan daeth nôl i ymweld â Chymru. Bu hi hefyd farw ym Mhatagonia yn 1891 o hiraeth a thor-calon.

Yn 1901 roedd John, Nel, chwaer yng nghyfraith Nel - Hannah a'i wyr John Daniel (Johnnie) wedi symud yn ôl i Gymru i fyw mewn tŷ o'r enw 'Camwy' yn Drefach Felindre.

Priododdd John am y trydydd tro gyda gwraig o'r enw Sarah a chawsant fachgen o'r enw Samuel.

Marwodd John yn 1925.