Yr Esgob Wyn Evans

Ar ddydd Iau Ebrill 30ain daeth yr Esgob Ty Ddewi i'n ysgol ni.

Daeth yn ei wisg draddodiadol. Roedd ei wisg yn felin,gwyn ac yn aur a roedd e'n gwisgo mwclys gyda croes arno.Roedd yr Esgob yn dweud mae dim ond Esgob oedd a hawl ei wisgo ac roedd modrwy da fe gyda carreg amethyst ynddo.Roedd gan yr Esgob het ac hefyd roedd e'n cael 'staff' fel ffon i ddal. Roedd ganddo 'robe' drosto gyda llun aderyn arno.

Ar ol iddo egluro hyn roedd pawb yn gofyn cwestiynau iddo.

Ei lliw gorau yw aur ac mae'n casau porffor! Mae'r Esgob yn byw yng Nghaerfyrddyn a mae'r Esgob wedi priodi ond nid oes plant gyda fe. Roedd e wedi cael ei eni yn Hwlffordd.

Ei enw go iawn yw Wyn Evans. Mae Wyn,neu'r Esgob yn hoffi cerddoriaeth pop y canwr Johny Cash.Ei hoff emyn yw 'Rhagluniaeth mawr y Nef' a'i hoff fwyd yw pysgod a sawl math o cyrri.Yn ogystal, ei hoff tim rygbi yw'r Sgarlets.

Yn ei amser hamdden mae e'n hoffi darllen llyfrau hanesyddol a mynd am dro i'r arfordir. Mae gan yr Esgob 3 wisg pob tro yn ei gar a'i hoff beth am y swydd yw mynd i ymweld a phobl gwahanol.

Mae gan yr Esgob gaplan sy'n mynd bob man gyda fe a prynu bwyd pan mae e a'r eu deithiau neu yn mynd i'r gwaith.

Roedd yr Esgob am fod yn archaeolegwr pan oedd yn grwt bach ac mae'n teithio dros 15,000 milltir y flwyddyn. Mae'r Esgob am weld a pob eglwys yn De Cymru cyn iddo ymddeol. Mae'r Esgob yn hoffi ei swydd ond mae gormod o waith papur.

Ei hoff ffilm yw 'Madagasgar', ac yn yr Eglwys yn Ty Ddewi mae fwy o ddynion na menywod yn gweithio yno!! Mae fwy na 3,000,000 o bobl yn ymweld a'r eglwys bob blwyddyn. Mae dros 500 o bobl yn gallu mynd mewn i'r Eglwys ar un tro.

Rydw i wedi mwynhau gweld yr Esgob oherwydd mae'r Esgob yn ddyn pwysig iawn yn ei swydd ac rwy'n gallu dweud wrth pobl rwyn gweld fy mod wedi cwrdd a Esgob Ty Ddewi!!.

Gan Saba Elvidge