Yn ddiweddar gwnaeth yr ysgol fuddsoddi mewn Sgrin Werdd a allai gael ei ddefnyddio wrth ffilmio amryw o bethau gwahanol. Penderfynodd Dosbarth 3 y byddent yn sgriptio Bwletin Newyddion am chwalu gat Efailwen ac yna defnyddio’r Sgrin Werdd.

Lluniodd pob grwp sgript fywiog a diddorol ac ar y dydd fe ddaethant i mewn â gwisgoedd a phrops. Mae’r dasg yma wedi datblygu eu sgiliau llythrennedd yn ogystal a’u sgiliau TGCh. Mae’r disgyblion wedi magu hyder i siarad yn gyhoeddus ac wedi dangos ffurf gwahanol o ysgrifennu, sef sgript.

Roedd y disgyblion yng ngofal y dasg o ffilmio’r bwletin newyddion. Roeddent yn sicrhau bod yr actorion wedi eu lleoli yn y man cywir ar y Sgrin Werdd. Defnyddiwyd ipad’s a chamera digidol i dynnu lluniau a chadw tystiolaeth o’r dasg.