Ganed Lewis, plentyn cyntaf Thomas a Mary ym mis Rhagfyr a chafodd ei fedyddio ar 25 Rhagfyr 1813 yn Llanfihangel-y-Pennant. Mae cofnod y bedydd yn dangos fod y teulu'n byw yn Cwrt, Abergynolwyn ac fod Thomas yn labrwr.

Ganed Mary, ail blentyn Mary a Thomas ar 5 Rhagfyr 1815 yn Cwrt, Abergynolwyn. Cafodd ei bedyddio ar 24 Rhagfyr 1815 yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Cwrt. Yn drist lawn, bu farw cyn cyrraedd ei hail phenblwydd a chafodd ei chladdu yn Llanfihangel-y-Pennant ar 17 Awst 1817 yn flwydd oed.

Ganed eu trydydd plentyn, Jacob, ar 22 Chwefror 1818 yn Cwrt, Abergynolwyn a chafodd ei fedyddio ar 15 Mawrth 1818 yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Cwrt.

Ganed eu pedwerydd plentyn John (wedi ei gofnodi fel loan yn y gofrestr) ar 24 Gorffennaf 1820, ac fe bedyddiwyd ar Awst 24 1820.

Ebenezer oedd eu pumed plentyn. Erbyn hyn roedd y teulu wedi symud o Gwrt i Fryncrug ac yn byw ym Minffordd Felindre. Cafodd ei eni ar 12 Medi 1822 ym Mryncrug. Fe'i bedyddiwyd ar 19 Hydref 1822 yng Nghapel Bethlehem, Bryncrug.

Ni wyddom ddim am Ebenezer ac eithrio’r ffaith ei fod mwy na thebyg yn cael ei alw yn Beni a’i fod wedi marw o'r ddarfodedigaeth yn ifanc iawn.

Plentyn olaf Thomas a Mary oedd Mary, a aned ar 8 lonawr 1826 ym Mryncrug a chafodd ei bedyddio ar 29 lonawr 1826.Yn anffodus ni fu Mary fyw yn hir iawn chwaith, bu farw yn 5 oed yn 1831 o'r ddarfodedigaeth.

Mae John, y mab a oroesodd, yn ymddangos yng nghyfrifiad 1841, yn 20 oed, yn byw adref gyda Thomas oedd yn 50 oed a Mary yn 55 oed ym Mhont Fathew, sy’n rhan o Fryncrug o amgylch yr afon a’r bythynnod ar hyd y ffordd allan o'r pentref i gyfeiriad Llanegryn.

Dywed Lizzie Rowlands fod John wedi ymfudo i'r America ac am nad yw yng nghyfrifiad 1851, rhaid i ni gymryd yn ganiataol iddo fynd i America rywbryd rhwng 1841 ac 1851. Mae Lizzie hefyd yn cofnodi fod John wedi danfon llythyrau o’r America i'w fam, ac roedd Lizzie yn eu darllen iddi. Fe wnaeth Lizzie hefyd ysgrifennu at John. Gan i Lizzie ddechrau ymweld á Mary o fis Medi 1862 hyd nes i Mary farw yn Rhagfyr 1864, roedd John yn fyw ond hyd yma ni chafwyd cofnod ohono.