Un ochr o'r faner

Dathlu 200 Mlwyddiant Ysgolion Eglwysig

Dau gant o flynyddoedd yn ol roedd Joshua Watson a phobl eraill oedd yn aelodau pwysig o eglwys Lloegr wedi cwrdd i ddechrau y Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer addysgy tlawd.

Roedd y cwrdd cyntaf wedi cael ei gynnal ar y 16 o Hydref 1811. Eu tasg oedd adeiladu ysgolion eglwysig ym mhob plwyf. Erbyn 1861 roedd yna 12 mil o ysgolion ar draws Lloegr a Chymru mewn 'undeb' gyda'r Gymdeithas Genedlaethol ar draws Cymru a Lloegr.

Heddiw mae bron 5 mil o ysgolion eglwysig ac academiau a bron 1 miliwn o ddisgyblion a thros 15 miliwn o bobl yn mynychu ysgolion Eglwysig.

Ar yr 14 o Hydref 2011, roedd plant ysgol Penboyr yn rhan o wasanaeth dathlu 200 mlwyddiant Ysgolion Eglwysig yn Abaty Westminster yn Llundain.

Enillodd dwy ddisgybl, un o flwyddyn pump, ac un o flwyddyn chwech gystadleuaeth i gynllunio baner Haf 2011.

Cynhaliwyd gwasanaeth yn Abaty Westminster gan Archesgob Caer-gaint, Dr Rowan Williams i ddathlu ysgolion sy'n cynnig addysg Gristnogol i blant a theuluoedd.