Cranogwen – Menyw o Flaen ei Hamser

Rydym wedi bod yn astudio bywyd a llwyddiannau Sarah Jane Rees, neu fel ei hadnabyddir yn ôl ei henw barddol, Cranogwen. Gwraig o flaen ei hamser oedd Cranogwen (1839-1916). Bu’n Ysgol Feistres, hyfforddwraig mewn morwriaeth, athrawes sol-ffa ac arweinydd côr. Roedd hi hefyd yn bregethwraig, yn fardd, yn ddarlithwraig a deithiodd ar draws America i annerch y Cymry yno. Roedd Cranogwen yn un o’r menywod cyntaf i olygu cylchgrawn i ferched “Y Frythones’ a hi hefyd oedd sylfaenydd Undeb Dirwestol Merched y De.

Bu’r disgyblion ar ymweliad â Llangrannog i ddysgu mwy am fywyd y wraig hynod hon. Arweiniwyd un daith gan Jon Meirion Jones (blwyddyn 5 a 6) a’r llall gan Mickey Beechey (blwyddyn 3 a 4). Aethant i weld mannau a oedd yn bwysig iddi hi gan gynnwys ei chartref, Dolgoy Fach, Festri Capel y Wig, Ysgol Pontgarreg, Capel Methodistiaid Banc y Felin, Rheadr y Gerwn, y traeth a charreg Bica a’r ogofeydd. Gwelsom hefyd ‘Bryn Aeron’ y tŷ adeiladodd i’w rhieni, ‘Iet Wen’ ble bu’n byw gyda’i ffrind, Jane, Ysgol Pontgarreg ble bu’n dysgu am 6 mlynedd ac i Eglwys St Crannog i weld ei bedd.

Aethom ar ymweliad i’r Llyfrgell Genedlaethol i chwilio am ddogfennau gwreiddiol am Cranogwen, yn cynnwys papurau newydd, cylchgrawn ‘Y Frythones’ ac i weld rhaglen ‘Mamwlad’ ar Cranogwen. Daeth Catrin Edwards, cyfarwyddwraig ‘Mamwlad’ i’n ffilmio ar ran Archif Menywod Cymru gan ein bod yn astudio gwraig bwysig yn hanes Cymru. Dangosodd Rhodri Morgan glip fideo o Mererid Hopwood, y wraig gyntaf i ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol. Dysgodd y disgyblion sut i chwilio am wybodaeth o archif y llyfrgell – Papurau Newyddion Cymru ar lein.

Roedd Cranogwen yn fardd adnabyddus yn ei hamser ac enillodd nifer o wobrau mewn Eisteddfodau ar draws Cymru. Yn ôl Jon Meirion Jones, roedd wedi gweld cadair Eisteddfodol Cranogwen yng Nghapel Banc y Felin, Llangrannog cyn iddo gau yn 1995. Ar ôl chwilio a chwilio a chysylltu â nifer o Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd am cadeiriau Cranogwen, nid oedd sôn am unrhyw gadair. Awgrymodd y disgyblion i ni osod poster ar gyfri Trydar yr Ysgol i ofyn am unrhyw wybodaeth am Gadair Cranogwen. Gwelwyd y cais gan oddeutu 7,000 o bobl! Derbyniom e-bost gan athrawes o ardal Aberaeron yn ein hysbysu ei bod wedi gweld y Gadair yng Ngholeg Trefeca. Yn dilyn hyn, daeth cais i’r Pennaeth a rhai o ddisgyblion dosbarth 4 i fod ar radio Cymru ar y raglenni ‘Bore Cothi’ a ‘Taro’r Post’ ac ar raglen newyddion 6 ar S4C i rannu ein darganfyddiad a holi y gwrandawyr am wybodaeth am leoliadau cadeiriau eraill Cranogwen. Anfonom yr hanes hefyd i’r Journal a’n papur bro lleol, ‘Y Garthen’.

Yn dilyn ein canfyddiad cyffrous, aethom i Goleg Trefeca i weld cadair Cranogwen. Roedd y disgyblion yn hynod o falch i weld ei chadair. Esboniodd Richard, y rheolwr, hanes Coleg Trefeca a sut yr oeddent wedi cael y gadair gan y Llyfrgell Genedlaethol sawl blwyddyn yn ôl. Daeth Catrin Edwards, i’n ffilmio hefyd yng Ngholeg Trefeca, ar gyfer ei ffilm ‘Canrif o Obaith’ ar ran Archif Menywod Cymru.

Gan fod Cranogwen yn fardd adnabyddus, penderfynom edrych ar hanes cadeiriau Eisteddfodol yn mynd nôl i 1819 trwy ymchwilio ar lein. Rydym wedi bod yn astudio steil cadeiriau a sut maent wedi newid dros y blynyddoedd. Aethom i’r Ysgwrn, yn Nhrawsfynydd, i weld y gadair ddu ac i astudio hanes Hedd Wyn. Daeth Y Parchedig Carys Ann i ddangos pwer bwynt i ni ar hanes bywyd Hedd Wyn yn ystod un gwasanaeth. Hefyd, gwelodd ein disgyblion Sioe un dyn cyffrous ar Hedd Wyn gan gwmni ‘Mewn Cymeriad’.