Tan Gwyllt

Tân Tachwedd yn troelli,

Roced ryfeddol yn rasio,

Bang! Bang! Bang!

Lliwiau llachar yn llosgi,

Fflamau'n fflachio a ffrwydro,

Gwreichion gwych yn poeri,

Guto'n gwichian ar y goelgerth,

Golau arbennig yn wyllt,

Stwffio selsig sych,

Cleciadau cwl yn clecian,

Ser swnllyd yn symud.