Menter y Dreftadaeth Gymreig 2016

Ysgol Penboyr

Testun ein prosiect yn nosbarth 4 eleni yw:

‘Croesi’r Tonnau’ – Nel Fach y Bwcs

Dechreuad i’r gwaith oedd cymryd rhan mewn seremoni ym mis Gorffennaf 2015 i ddadorchuddio plac treftadaeth glas ar dŷ o’r enw ‘Camwy’, yn ein pentref, cartref Ellen Davies neu Nel Fach y Bwcs fel y gelwid hi, a’i thad, pan ddychwelont o Batagonia yn 1901.

Dadorchuddiwyd y plac gan deulu Nel. Buom yn canu cân am Batagonia a llefaru cerdd ‘Taith Anturus’ gan James Culf, a enillodd gadair ein heisteddfod Ysgol yn 2015. Arweiniodd hyn at ofyn y cwestiwn, pwy oedd Nel Fach y Bwcs a pham fod ei hanes yn bwysig i ni yn yr ardal? Wrth i ni ymchwilio ymhellach, roedd y pwnc yn dod yn fwy diddorol, ac yn bwysig iawn o ran hanes ein pentref ni. Cyn mynd ymlaen i astudio hanes Nel ei hunan, ymchwiliom i hanes pam wnaeth pobl ymfudo i Batagonia yn 1865 ar y Mimosa. Daeth Cwmni Arad Goch i’r ysgol i berfformio drama ’Hola’ ar hanes y mewnfudwyr i Batagonia. Cymerom ran mewn gweithdy gyda’r actorion yn dilyn y perfformiad.

Ar Chwefror 5ed, 2016 aeth rai o ddisgyblion blwyddyn 6, sy’n trosglwyddo i Ysgol Emlyn, a rhai o flwyddyn 5, ar ymweliad â dociau Lerpwl i weld cofeb i gofio yr ymfudwyr cyntaf a hwyliodd ar y Mimosa yn 1865. Fe wnaethom gwrdd â Dr. Arthur Thomas, un o aelodau Cymdeithas Cymry Cymraeg Lerpwl, ac adrodd hanes dadorchuddio’r gofeb. Fe wnaeth ein tywys o amgylch y dociau. Buom yn gweld model o’r Mimosa yn Amgueddfa Forwrol.

Dr. Thomas oedd wedi cludo’r model o Gernyw i Lerpwl.

Er mwyn clywed hanes Nel o lygad y ffynnon, fe wnaethom wahodd Eiry Palfrey, wyres Nel i siarad â ni. Dangosodd bwer pwynt o hanes Nel ym Mhatagonia ac yn Drefach Felindre. Soniodd am ei phersonoliaeth a hanesion diddorol amdani, yn enwedig hanes y jwg, cwilt a’r poncho.

Ar ôl gweld DVD o ffilm ‘Poncho Mamgu’ a gyfarwyddwyd gan Eiry Palfrey a’i theulu, fe wnaethom greu poncho i’w ddefnyddio ar gyfer ffilm sgrin werdd. Blwyddyn 6 oedd yn gyfrifol am sgriptio a chyfarwyddo. Buom yn defnyddio ein sgiliau digidol i ffilmio a golygu’r ffilm fer. Rydym yn ddiolchgar i Mrs Palfrey wedi rhoi ei chaniatad i ni ddefnyddio'r ffilm ar gyfer ein gwefan.

Daeth Mrs Joanna Jones, Swyddog Addysg yr Amgueddfa Wlân, i gynnal prynhawn gyda ni am ei phrofiad o ymweld â Phatagonia ym mis Rhagfyr 2015. Cawsom weithdy celf i ddechrau a gwneud printiau dwylo tebyg i’r rhai yn Ogofau Cueva de las Manos, yn yr Ariannin. Dangosodd bwynt pwer o’i thaith a siaradodd am Lain Las, cartref Nel ym Mhatagonia, sydd wedi ei droi’n amgueddfa erbyn hyn. Hefyd, dangosodd luniau o sut mae pobl yn byw heddiw yn y Gaiman er mwyn i ni gael cymharu hynny gyda’n bywyd ni yng Nghymru .

Daeth Mrs Olive Campden, hanesydd lleol, i’r ysgol i siarad â ni am Nel a hanes y plwyf. Roedd hi’n ei hadnabod ac yn mynd i’r un capel â Nel. Siardodd am fywyd yn Nrefach Felindre pan ddaeth yn ôl yn 1901. Buom gyda Mrs Campden ar daith o amgylch y pentref i weld mannau ble fyddai’r hen siopau a busnesau wedi bod ac ymweld â Chapel Clos y Graig, capel Nel.

Ymwelydd arall a ddaeth i siarad gyda ni oedd Mr Eifion Davies, perthynas i Nel. Siaradodd am fywyd Nel yn Patagonia a’i phersonoliaeth. Dangosodd ei goeden deulu a lluniau o’r teulu ac egluro sut yr oedd yn perthyn i Nel.

Derbyniom wahoddiad gan Gymdeithas Hanes ‘Tir a Môr’ Ffostrasol i gymryd rhan mewn noson gyhoeddus gyda Dr Elin Jones, i siarad am ein prosiectau hanes ar gyfer cystadleuaeth Menter y Dreftadaeth. Buom yn rhannu gwybodaeth am Nel Fach y Bwcs gyda’r gynulleidfa.

Cynhaliom noson Patagonia ac Ocsiwn yn Neuadd y Ddraig Goch. Cawsom bryd bwyd Archentinaidd a bu disgyblion ar draws yr ysgol yn perfformio dawnsfeydd Archentinaidd a chanu caneuon am ymfudo i Batagonia. Codom £2057.01 i’r ysgol.

Eleni, ar gyfer ein heisteddfod ysgol, buom yn perfformio darnau am Batagonia yn ein timoedd. Buom yn canu caneuon am y Wladfa ac adrodd darn James Culf, ‘Taith Anturus’ am ymfudo i Batagonia a enillodd gadair Eisteddfod yr Ysgol yn 2015.

Buom yn llwyddianus i dderbyn nawdd o £1,500 i greu y cwilt am hanes Nel a’r Rhyfel Byd Cyntaf trwy Amgueddfa Wlân Cymru. Mae Nia Lewis, Artist Tecstiliau, wedi bod yn gweithio gyda ni ers mis Ionawr. Fe wnaeth Mr Eifion Davies, ddadorchuddio’r cwilt mewn prynhawn ar gyfer y rhieni a’r gymuned. Buom yn diddanu’r gynulleifa a chanu caneuon ac adrodd.

Ar Ebrill 15fed a’r 16eg, aeth y disgyblion sy’n trosglwyddo i Ysgol Bro Teifi ym mis Medi, ar daith i Iwerddon i weld llong Dunbrody sy’n debyg i’r Mimosa yn New Ross, sir Wexford. Gan fod llong y Dunbrody yn debyg i'r Mimosa, gallen ni gymharu amgylchiadau ar y llong yn 1865 i gyrraedd gwlad yr addewid gyda moethusrwydd llong y Stena Line yn mynd i Iwerddon a gallu gwylio ffilmiau a symud o amgylch y dec fel y dymunen. Buom yn ffodus o gael mynd i ystafell rheoli'r llong a chwrdd â'r Capten a'r Mêt 1af a gweld yr offer radar a digidol y defnyddient i hwylio'r llong. Daeth Mr Hedd Ladd Lewis, Pennaeth Hanes, Ysgol Dyffryn Teifi a thri disgybl y chweched gyda ni.

Yn dilyn ein hymweliadau a’n gwaith ymchwil, fe wnaethom gasglu’r tystiolaeth i greu gwefan, gan blant i blant, sy’n lliwgar ac yn rhwydd i’w defnyddio. Defnyddiom ein sgiliau digidol i greu tudalennau gwybodaeth yn ogystal â gemau a chwis cyn eu gosod ar ein gwefan. Buom yn gweithio gyda’n gilydd i gynllunio’r wefan i sicrhau ein bod yn cyflwyno gwybodaeth diddorol i adrodd hanes Nel i’r byd.

Rydym wedi rhannu ein wefan gyda phlant ysgolion yng Nghymru a Phatagonia. Rydym wedi anfon negeseuon at Ysgol yr Hendre yn Nhrelew sy’n dathlu deng mlynedd o fodolaeth eleni ac Ysgol newydd ddwyieithog - Ysgol y Cwm, sydd newydd agor yn Nhrevelin. Nid ydym wedi clywed gan Ysgol y Cwm. Eleni, rydym ni yn dathlu can mlwyddiant a hanner Ysgol Penboyr.

Mae Ysgol Yr Hendre wedi cysylltu gyda ni ac maent wedi bod yn astudio'n gwefan, sydd yn gyffrous iawn. Mae lluniau ohonynt ar y gwefan. Daeth Ana, un o Lywodraethwyr yr ysgol i ymweld â Ysgol Penboyr yn ddiweddar. Cawsom fore arbennig yn ei chwmni. Buodd y disgyblion yn perfformio eitemau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd iddi yn ystod y cyd-addoli boreol cyn iddi ymweld â phob dosbarth wrth gael taith o amgylch yr ysgol. Rydym yn mynd i gadw cysylltiad gyda'r ysgol trwy gynnal sesiynau skypio er mwyn cymharu bywyd ym Mhatagonia gyda Cymru, fel y gwnaeth Nel pan ddaeth yn ôl i Gymru. Rydym wedi lan lwytho ffilm o daith o amgylch yr ysgol i ddisgyblion Ysgol yr Hendre gael gweld ein hysgol.

Rydym wedi buddsoddi mewn gorsaf radio ar gyfer darlledu ar y we i hyrwyddo gwaith yr ysgol yn y gymuned lleol ac yn ehangach. Rydym wedi creu tair rhaglen radio. Y cyntaf ar hanes yr ymfudo i Batagonia ar y Mimosa, yr ail ar hanes Nel ym Mhatagonia a’r un olaf ar ei hanes yn Drefach Felindre a’n taith i Iwerddon. Darlledwyd y rhaglenni ar www.cymru.fm. Mae’r rhaglenni ar gael i wrando eto ar wefan Cymru FM neu ar wefan yr ysgol.

Trwy’r prosiect trawscwricwlaidd hwn, rydym wedi dysgu llawer am fywyd gwraig arbennig a diddorol a oedd yn byw tafliad carreg o’r ysgol. Er ein bod yn astudio hanes Patagonia yn yr ysgol fel rhan o’r Cwricwlwm Cymreig, mae astudio hanesion diddorol am Nel wedi dod âr hanes yn fyw i ni. Bwriadwn yn y dyfodol agos ddatblygu ein sgiliau digidol ymhellach drwy ddefnyddio rhaglen newydd o’r enw ‘ibook author’ i greu e-lyfr ar gyfer ipads am hanes Nel Fach y Bwcs. Gobeithiwn gyhoeddi’r e-lyfr ar yr ‘app store’ i’w rannu gyda disgyblion Cymru, Patagonia a’r byd ehangach er mwyn cadw ei hanes yn fyw am genedlaethau i ddod.