Ein taith ar Fferi Stena

Gan ein bod wedi bod yn astudio hanes yr ymfudwyr cyntaf adawodd am Batagonia ar y Mimosa, rydym wedi bod yn cymharu amgylchiadau ar y Mimosa a oedd yn 'tea clipper' wedi ei addasu ar gyfer teithwyr yn 1865, gyda llong fodern Stena.

Er ei bod hi'n ddiwrnod braf pan deithiom dair awr a hanner i Rosslare Iwerddon, roedd y mor yn weddol llonydd. Er hynny, roedden yn gallu teimlo'r llong yn ysgwyd o un ochr i'r llall. Fe deithiom mewn moethusrwydd, gan fwynhau cadeiriau cyfforddus, caffi, ystafell film, ystafell gemau ac yn fwy na dim ystafelloedd ymolchi a toiledau, yn wahanol i'r Mimosa ble roedd pobl yn defnyddio bwcedi!

Byddai taith dau fis o hyd 7,000 o filltiroedd i ffwrdd wedi bod yn anodd iawn i'r teithwyr a oedd yn teithio yn y dec isaf yn enwedig pan oedd y mor yn arw ac ychydig o fwyd i fwyta a diod i'w yfed, heintiau yn cynyddu a phobl yn marw a babanod yn cael eu geni yr un amser.

Yn y prosiect, rydym wedi ysgrifennu am y Mimosa ac hefyd y Dunbrody, y llong newyn, buom yn ymweld รข hi yn New Ross, Iwerddon. Cliciwch ar y fideos i weld ein taith i Iwerddon mewn moethusrwydd ar fferi y Stena.