Cyflwyniad

Un o amcanion a nodau Ysgol Penboyr wrth baratoi ein disgyblion ar gyfer y dyfodol yw:

‘galluogi pob plentyn i dyfu i gyfranogi’n llawn mewn cymdeithas lle defnyddir Cymraeg a Saesneg fel cyfrwng mynegiant.

Mae canran uchel (70%) o’n disgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg, a’n dyletswydd ni yw sicrhau eu bod yn siarad Cymraeg o fewn y dosbarth ac ar y buarth fel eu bod yn hyderus i siarad yr iaith yn y gymdeithas ehangach.

Yn dilyn ein harolwg Estyn yn Medi 2015, un o’n hargymhellion yn dilyn yr ymweliadoedd i ‘Gryfhau’r ddarpariaeth ar gyferdatblygu medrau llafaredd disgyblion i sicrhau eu defnydd cyson o’r iaith Gymraeg’, sydd yn un o flaenoriaethau ein Cynllun Datblygu 2016-2017. Fel ymateb i’r gofyn yma, penderfynom fel ysgol i fabwysiadu ac i weithredu cynllun Sir Gaerfyrddin sef ‘Siarter Iaith Sir Gâr – Codi Caerau Sir Gâr’.

Prifnod y Siarter Iaith yw arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg ac i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agweddo’u bywydau. Mae angen cefnogaeth y gymdeithas, yr ysgol, y Cyngor Ysgol, y disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau iddo lwyddo.

Yn Medi 2016, dechreuwyd ar y daith tuag at ennill ein gwobr gyntaf sef y wobr Efydd gyda chefnogaeth Pedr Penboyr. Gofynnwn yn garedig i chi fel rhieni, llywodraethwyr a disgyblion ddod gyda ni ar y daith bwysig hon.