Ymwelwyr Haiti

Braf oedd cael croesawu Mr. Hywel Slaymaker i wasanaeth boreol yr ysgol i sôn am ei daith i gynorthwyo trigolion Haiti i ail-adeiladu cartrefi ar ôl y ddaeargryn. Roedd Mr. Slaymaker yn rhan o dîm prosiect "Homes for Haiti". Dywedodd fod yr hyn oedd wedi ei dderbyn o’r profiad yn annodd i roi mewn geiriau.