Gosod rheolaeth rhieni ar eich dyfeisiadau'r we.

Edrych ar yr hyn mae eich plant yn ei wneud ar y we.

Atgoffa eich plant i beidio rhannu gwybodaeth bersonol ar y we.

Gwneud yn siwr fod eich plant yn defnyddio peiriant chwilio'n ddiogel.

Bod yn ymwybodol fod cyfyngiadau oedran i rai gwefannau cymdeithiasol, gemau ac apiau i'ch plant.

Dylech gyfyngu ar oriau mae'ch plant yn mynd ar y we.

Gwybod pwy sy'n siarad gyda'ch plant ar y we.

Peidiwch caniatâu i'ch plant gael ffonau symudol na chyfrifiaduron mewn ystafelloedd gwely.

Gwiriwch 'search history' yn rheolaidd.

Dysgu ymddygiad da pan yn defnyddio'r rhyngrwyd.

Trafodwch beryglon defnyddio'r we a'r hyn sydd angen

i'ch plentyn ei wneud mewn sefyllfa anodd.

,

Cyngor i Rieni / Gwarcheidwaid

Dilynwch y cyngor isod i helpu eich plentyn/plant gadw'n ddiogel ar lein nawr ac yn y dyfodol