Roedd mam Mary yn wraig grefyddol lawn ac roedd hi a Mary bob amser yn cael eu gweld yn y Capel. Roeddent yn aelodau yn Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, oedd wedi cychwyn yng Nghymru yn 1735-6, ar ôl cael eu dylanwadu gan bregethwyr teithiol oedd yn mynychu'r ardal.

Roedd y Capel Methodistiaid Calfinaidd agosaf yn Cwrt, ddwy filltir dda o bellter, a bob dydd Sul, byddai Mary a’i mam yn cerdded y pellter, gan gyfarfod â chyfeillion a chydgerdded gyda hwy.

Roedd y pregethwyr oedd yn ymweld yn cynnwys y Parchedig Thomas Charles oedd yn un o arweinwyr amlwg y Mudiad Methodistaidd yng Nghymru. Cafodd ei eni yn 1755, a'i fagu dan ddylanwad y Methodistiaid. Mynychodd Brifysgol Rhydychen yn wreiddiol a chafodd ei ordeinio yn yr Eglwys Anglicanaidd.

Ymsefydlodd y Parchedig Thomas Charles yn y Bala ac roedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu system Ysgol Sul gylchynol yn yr ardal. Roedd Ysgolion Sul yn rhoi cyfle i bobl ddysgu darllen ac ysgrifennu, ac roedd gwersi’n cael eu cynnal yn y prynhawn, rhwng gwasanaethau'r Capel yn y bore a’r nos. Byddai'r rhai oedd wedi teithio o gryn bellter yn dod â phryd o fara a chaws gyda hwy i'w fwyta amser cinio.

Roedd dysgu darllen yn bwysig i bawb, ac roedd wythnos yn amser hir iddi ddisgwyl clywed y stori nesaf o'r Beibl. Roedd y Parchedig Thomas Charles hefyd yn gyfrifol am sicrhau a dosbarthu miloedd o Feiblau Cymraeg, ac ef oedd yr un wnaeth annog Mary i gynilo arian i brynu ei Beibl ei hun.

Yr ysgol agosaf oedd yr un yn Pandy oedd yn cael ei chynnal gan Mr Lewis Williams ac roedd Mary yn dal yn ddisgybl yn yr ysgol pan gerddodd i’r Bala i brynu ei Beibl

Erbyn i Mary fod yn wyth mlwydd oed, roedd yn dechrau dysgu darllen a chafodd gynnig y cyfle o ddarllen Beibl Mr a Mrs Evans oedd wedi prynu Beibl rai blynyddoedd ynghynt. Ar ei diwrnod rhydd, byddai Mary yn arfer cerdded y ddwy filltir i fferm Mr a Mrs Evans ble roedd yn cael eistedd yn y parlwr a darllen y Beibl. Erbyn iddi gyrraedd ddeg oed, roedd Mary wedi penderfynu prynu ei Beibl ei hun a dechreuodd wneud gorchwylion ychwanegol i ennill yr arian oedd ei angen arni - 3s a 6d (17 1/2 c yn ein arian ni heddiw).

Thomas Charles

Mary Jones