Rôl menywod yn y 1900au cynnar

Ar ôl i Nel adael y melinau gwlân ar ôl gweithio am tri diwrnod, aeth Nel i Aberdyfi i weithio mewn gwesty fel gweinyddes a gwiniadwraig. Ond, roedd hiraeth arni am Drefach, felly symudodd yn ôl i aros efo'i ffrind Mary Jane yn Perthi teg.

Gofynnodd Thomas i Nel i briodi. Fe briodon ar Awst 16, 1903 yng Nghapel Bethel, Castell Newydd Emlyn. Aethant i fyw am gyfnod yn Drefach ond yna symudont yn ôl i Landysul ac etifeddu siop o'r enw Emporium oedd yn gwerthu dillad. Enw'r siop heddiw yw Bradford House.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd rôl menywod yn newid.

Credai llawer o bobl mai rôl y fenyw oedd yn y cartref! Os oedd menywod yn priodi, roedden nhw yn aros adref i edrych ar ôl y plant tra bod y gwr yn mynd allan i weithio a dod mewn a chyflog wythnosol. Os oedden nhw yn ddi-briod, byddai rhaid iddynt fynd allan i weithio er mwyn cael arian i fyw. Roedd llawer o fenywod yn gweithio fel gweision domestig, lle roedd rhaid iddynt goginio a glanhau. Byddent yn gweithio am oriau hir am arian bach iawn, a dim ond ychydig o amser bant!

Newidiodd rôl y fenyw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918). Gan fod y dynion yn cael eu hanfon i ffwrdd i ymladd, roedd nifer fawr o ferched yn cael eu recriwtio i swyddi'r dynion. Mae hyn yn golygu bod y merched yn cymryd drosodd rôl y dynion yn gweithio mewn swyddi fel gwarchodwyr rheilffyrdd, gyrwyr bysiau a dargludyddion, gweithwyr post, yr heddlu a diffoddwyr tân. Roedd rhai menywod yn gweithio fel mecanic ac mewn ffatrïoedd peirianneg hefyd.

Merch yn newid signalau yn y blwch signal y rheilffordd

Arweinydd tram

Dargludydd bws

Gwraig llaeth

Gweithwyr ffatri